Carmarthen Journal

Y Filltir Sgwâr

-

MAE’R cyfnod yma, sydd o dan fygythiad a pherygl y feirws, yn medru bod yn gyfnod hefyd o gadw stoc. O ble rydym yn dod ac i ble rydym yn mynd. Gallwn edrych arno fel arwyddbost ac yn sicr mae arafwch y misoedd yma yn creu amser i ni ddod i adnabod ein hunen, ein gilydd ac i werthfawro­gi yr hyn sydd gennym o fewn ein milltir sgwâr.

Rwyn byw ym Mynyddygar­reg, ond rwyn dod o bentre y Meinciau sydd ond tair milltir i ffwrdd. Mae’r ddau bentre yn rhan o Gwm Gwendraeth a dyna yw y filltir sgwâr. Ond mae’r filltir sgwâr yma wrthgwrs yn ymestyn ac yn cael ei chofleidio gan weddill Cymru.

Saif Meinciau a Mynyddygar­reg ar y cribyn rhwng y ddau gwm lle mae’r ddwy afon, y Gwendraeth Fawr a’r Gwendraeth Fach, ar eu taith heibio Cydweli i arllwys eu cnwd ym mae Caerfyrddi­n.

Daeareg sy’n gyfrifol am y gwahanieth rhwng y ddau gwm. Yr hen ardal loafol, ddiwydiann­ol ar un ochr, sef y Gwendraeth Fawr, a’r tir ffrwythlon amaethyddo­l ar yr ochor arall sef y Gwendraeth Fach. O ganlyniad i’r diwydiant glo fe ddatblygod­d pentrefi sylweddol eu maint ar hyd y Gwendraeth Fawr. Ymfudodd llawer o bobol i’r pentrefi hyn yn enwedig o ardaloedd gwledig Sir Gaerfyrddi­n a Cheredigio­n ac yn ddiweddara­ch o Durham a’r Alban.

Ar y llaw arall pentrefi bach sy’n bodoli ar hyd y Gwendraeth Fach.

Rwyn cofio nôl i ddyddie Ysgol Gynradd Gwynfryn – y 50’au cynnar -bydde bws y coliers yn cyrraedd tu fas i’r ysgol o gwmpas tri o’r gloch yn cludo y coliers adre ar ôl tyrn o waith. Pob un yn dod mas o’r bws a’i wyneb mor ddu a’r fagddu. Wmolch mewn sincen o flaen y tan fydde nhw yn ystod y gaea ond tu fas pan fydde hi’n ffein.

Ond nawr mae’r gweithfeyd­d wedi hen gau a’r coliers hynny i gyd yn dawel. Rwyn gwbod falle nad yw pawb yn cytuno gyda fi ond dwy ddim yn flin i weld y pylle glo yn cau achos dwy ddim yn meddwl bod Duw wedi creu yr un person erioed i witho ym mherfedd y ddaear. Buodd fy nhadcu yn gwitho am gyfnod dan ddaear – buodd e ddim yno yn hir iawn ond fe dalodd e’n ddrud. Roedd yr hen silicosis wedi cael gafel arno fe. Yn wahanol i lawer llai ffodus buodd e fyw nes oedd e’n 68 ond fe wnaeth e ddiodde tipyn oherwydd y silicosis.

Amser fy mhlentyndo­d roeddwn yn perthyn bron i bawb oedd yn byw ym Meinciau - neu meddwl bo fi’n perthyn.

Erbyn hyn ry’ ni, fel trigolion cafodd ein geni a’n magu yn y cwm, wedi gweld newid aruthrol o safbwynt adnabyddia­eth. Ni ddim yn nabod pawb yn ein pentrefi bellach ac mae mewn lifiad yn raddol newid iaith pob dydd yr ardal.

Er fod nifer o’r ymfudwyr yma yn gwneud cyfraniad gwerthfawr i’r gymuned yn anffodus mae llawer ohonynt heb ymgorffori yn y gymdeithas. Credaf ei bod yn ddyletswyd­d i fod yn ymwybodol o hanes, traddodiad­e a diwylliant yr ardal.

I fi yn bersonol, a ninnau ar drothwy’r Nadolig a’r flwyddyn newydd, mae gweld dirywiad yn yr arferiad o blant yn mynd o gwmpas ar fore dydd Calan yn canu ac i ddymuno blwyddyn newydd dda yn symbol trist o elfen draddodiad­ol Gymreig sydd i bob pwrpas wedi diflannu. Rwyn cofio yn glir mynd o gwmpas yn flynyddol gyda fy nghefnder David, neu fel mae pawb yn ei adnabod nawr, Dai y Red, yn bloeddio canu: Blwyddyn Newydd Dda i chi

Ac i bawb sydd yn y ty Dyna yw’n dymuniad ni Blwyddyn Newydd Dda i chi.

Cael croeso gan bawb ac erbyn 12 o’r gloch roedd rhaid tewi ac yna nôl adre a’r ddau ohonom wedyn yn cyfri ac yn ymfalchio yn ein cyfoeth!

Mae’r ardal erbyn hyn yn fath o barometer i gyflwr yr iaith Gymraeg a chymreicto­d o fewn Cymru yn gyfangwbl.

Mae ‘na berygl fod y Gymraeg yn cael ei disodli yn raddol fel iaith pob dydd y gymuned yn enwedig ymysg y bobol ifanc. I oresgyn hyn mae’r ysgolion yn chwarae rôl allweddol a mae cyfraniad a gwaith Menter Cwm Gwendraeth Elli yn amhrisiadw­y i gadw ac i hybu cymreictod y Filltir Sgwâr bwysig yma.

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom