Myfyrdode
“MAE’R Nadolig yn neshau” medde cân Triawd y Coleg ‘slawer dydd, yn disgrifio’r ffowls ar fuarth fferm yr Hafod yn mynd i banig wrth ystyried eu tynged adeg y Nadolig.
Roedden nhw’n anifeiliaid call iawn, lot callach na ni, ddinasyddion y wladwriaeth Brydeinig, a wnaeth bleidleisio yn yr etholiad cyffredinol flwyddyn yn ôl fel twrcwn yn pleidleisio dros y Nadolig! Ac etholwyd y Llywodraeth mwyaf asgell-dde a di-glem erioed. Caiff enw Boris Johnson ei osod yn yr un cwmni â Donald Trump, Bolsonaro yn Brasil, Putin yn Rwsia, Orban yn Hwngari ac Erdogan yn Nhwrci. Nid cydddigwyddiad yw fod y clefyd Covid hefyd wedi cael llwybr haws yn nifer o’r gwledydd mwyaf adweithiol.
Roedd nifer helaeth o bobl oedd wir yn adnabod Boris Johnson, yn cynnwys ei deulu, athrawon, ei gyngyflogwyr a hyd yn oed ei ffrindiau, yn rhybuddio ei fod yn llawn ymffrost di-sylwedd ac heb y gallu i weithio’n galed a meistroli’r ffeithiau. Collodd swyddi am ddweud celwydd ac fe brofwyd y tu hwnt i bob amheuaeth fod yr ymgyrch a arweiniodd dros Brexit yn llawn twyll a chelwyddau.
Yn ôl Boris Johnson flwyddyn yn ôl, roedd ganddo gytundeb gyda’r Undeb Ewropeiadd (UE) oedd yn barod i’w weithredu, “oven ready”; ond yna ceisiodd newid y cytundeb a thorri’r gyfraith ryngwladol yn y broses. Er mwyn ceisio datrys problem Gogledd Iwerddon fe arwyddodd gytundeb i ganiatau i’r dalaith honno barhau i weithredu o dan amodau masnach y farchnad sengl a olygai y byddai’n rhaid cael ffin rhwng gogledd Iwerddon a Phrydain. Byddai hynny’n sicrhau na fyddai ffin rhwng gogledd a de ynys Iwerddon, a oedd yn ganolog i gytundeb Gwener y Groglith sydd wedi sicrhau heddwch yn y wlad. Roedd hyn yn allweddol, nid yn unig i Iwerddon a’r UE, ond hefyd i’r UDA o dan arlywyddiaeth Joe Biden.
Mae’r ffaith fod Boris Johnson wedi torri ei air ar hyn wedi achosi iddo ef a’i lywodrath golli hyd yn oed fwy o barch a hygrededd ar lwyfan y byd, ac mae hynny oedd yn weddill o ‘enw da’ Prydain Fawr yn gorwedd yn y llaid!
Mae’r twyll a’r llygredd oedd wrth galon yr ymgyrch Brexit, bellach wedi gwreiddio yng nghalon y llywodraeth yn San Steffan. Wrth bod nifer o’r rhai oedd mor llafar dros Brexit yn symud eu gweithleoedd a’u cartrefi i wledydd tramor mae’r cymhellion y tu ôl i’w hymgyrchu yn dod yn glir. Arian. Mae nifer o’r cyfoethogion hyn wedi ychwanegu miliynau at eu cyfoeth drwy gamblo ar y broses Brexit. Anfaddeuol hefyd yw fod ffrindiau i aelodau’r Llywodraeth yn derbyn miliynau i ffurfio a newid cwmniau i fanteisio ar yr arian sy’n cael ei wario i ymladd Covid 19; mae’n hollol ddi-egwyddor a llwgwr.
Bellach daeth yn glir nad mudiad a gododd yn naturiol o’r boblogaeth oedd Brexit. Cyn 2016 doedd braidd dim sôn am anfodlonrwydd cyffredinol gyda’r UE. Yn hytrach, ymgyrch benderfynol gan nifer cymharol fach o arweinwyr cyfoethog asgell-dde (a gefnogwyd gan Putin) i wthio’r blaid Geidwadol i drefnu’r refferendwm. Wedi sicrhau y byddai refferendwm yn digwydd aeth y bobl hyn ati i drefnu ymgyrch hynod effeithiol, gan fanteisio ar anfodlonrwydd a dicter pobl gyffredin tuag at arweinwyr gwleidyddol. Defnyddiwyd tactegau anonest, hiliol ac anghyfreithlon i gorddi teimladau pobl ddifreintiedig a pherswadiwyd miliynau fod hon yn ffordd i roi cic go iawn i’r drefn wleidyddol. Wrth gwrs fod nifer a bleidleisiodd dros Brexit wedi gwneud hynny yn gwbl egwyddorol oherwydd eu haniddigrwydd gyda’r UE, ac roedd nifer o’r rhain yn anhapus iawn gyda’r ymgyrch anonest a arweiniwyd gan Johnson, Farage etc. Perswadiwyd miliynau mai eu gwir elynion oedd tlodion eraill y byd a bod yn rhaid eu cadw mas o Brydain. Defnyddiwyd y cyfryngau cymdeithasol mewn modd clyfar iawn a dulliau (a brofwyd yn ddiweddarach) oedd yn anghyfreithlon. Arllwyswyd miliynau o bunnau i’r ymgyrch mewn modd a oedd hefyd yn anghyfreithlon ar adegau.
Nawr, bydd yn rhaid i ni gyd fyw gyda chanlyniadau’r holl gelwyddau, twyll a thorr-cyfraith.
Ein gobaith yw y gwnaiff hyn arwain at frwdfrydedd dros Gymru well a ffyniannus drwy sicrhau ein rhyddid gwleidyddol!