Cornel Creu Nadolig ar y cyd gyda’r Atom
AR fore Sadwrn y 19eg daeth criw ifanc a brwd ynghyd dros Zoom i gael ychydig o hwyl Nadoligaidd. DARLLENWYD stori Nadoligaidd i’r criw Cyfnod Sylfaen a chrëwyd mygydau Nadoligaidd. Yna, daeth tro’r criw hyn! Darllenwyd y stori ‘Nadolig’ a daeth cyfle iddyn nhw hefyd i fod yn greadigol a chreu cymeriadau allan o’r stori.
DIOLCH i bawb a fynychodd ac am gefnogi un o weithgareddau Nadolig Menter Gorllewin Sir Gâr. Gobeithiwn drefnu mwy o weithgareddau tebyg yn y flwyddyn newydd.