Cronfa Ymddiriedolaeth Budd Cymunedol Fferm Wynt Statkraft Alltwalis
MAE’R Cronfa Ymddiriedolaeth Budd Cymunedol Fferm Wynt Statkraft Alltwalis wedi sefydlu ers deg mlynedd ac mae dros £780,429 wedi eu dosrannu i 34 o glybiau, cymdeithasau a sefydliadau yn ardal etholaeth Llanfihangel ar Arth ac maent i gyd wedi elwa.
Yn ystod 2019 cyfrannodd cwmni Statkraft swm o £98,246 i’r gronfa a chefnogwyd y ceisiadau canlynol:
1. Capel Nonni: Cefnogwyd cais am grant o £3,474 ar gyfer ffenestri a drws newydd y gwaith o adnewyddu ffenestri y toiledau.
2. Eisteddfod Llanfihangel ar Arth a’r Plwyf: Cefnogwyd cais gwerth £600 tuag at y gost gwobrau Eisteddfod Llanfihangel ar Arth a’r Plwyf.
3. Cylch Meithrin Pencader: Cyfrannwyd swm o £5,000 tuag at gostau rhedeg Cylch Pencader. ‘Rydym yn gwerthfawrogi’n fawr y cymorth y mae Statkraft wedi rhoi i ni.’
4. Cylch Meithrin Llanllwni: Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae’r Cylch wedi elwa yn fawr drwy dderbyn cefnogaeth o £5,000 wrth Gronfa
Statkraft tuag at gostau rhedeg y Cylch. ‘Mae’r arian yma yn gwneud gwahaniaeth mawr i ni ac rydym yn ddiolchgar iawn i chi am eich cyfraniad sydd yn sicrhau cyflwyniad addysg iaith Cymraeg i blant lleol yn y blynyddoedd cynnar.’
5. Grwp Adfywiad Pencader a’r Cylch: Gwnaeth y Gronfa barhau i ariannu’r gost o argraffu a dosbarthu newyddlen Clecs Bro Cader.
6. Pwerdy Canolfan Gymunedol a Chelfyddydau Pont Tyweli: Cafodd cais gwerth £30,663 ei gefnogi ar gyfer adnewyddu’r cyfleusterau cyhoeddus a chreu gofod sydd yn cynnig gweithdai celf ar gyfer pobl o bob oedran.
7. Clwb Targed Llandysul: Cefnogwyd cais gwerth £892 i archebu paneli solar i gynnal pwer cynaliadwy a chawell diogelwch.
8. Ysgol Cae’r Felin: Roedden yn ffodus iawn i dderbyn grant gwerth £7,601 er mwyn datblygu sgiliau cymhwysedd digidol y disgyblion yn ogystal â datblygu uwch sgiliau darllen. Prynwyd 15 ipad er mwyn rhannu rhwng y dosbarthiadau ac o ganlyniad mae’n galluogi grwpiau i gydweithio ac i ymchwilio ym mhob dosbarth o fewn yr ysgol.
9. Ysgol Eglwys Llanllwni: Cefnogwyd ceisiadau gwerth £3,247 ar gyfer archebu arwyddion a pheintio gemau buarth a beics. ‘Mae ‘r ysgol wedi elwa’n fawr o’r arwyddion ‘Boomerang’. Mae’r arwyddion yn lliwgar ac yn ddeniadol iawn ac wedi trawsnewid yr ardal allanol.’
10. Clwb Ffermwyr Ifanc Llanllwni: Cyfranwyd grant o £1,286 tuag at y gost o archebu camera ar gyfer y clwb. ‘Ysgrifennaf atoch ar ran Clwb Ffermwyr Ifanc Llanllwni i ddiolch yn fawr iawn i chi am dderbyn ein cais am gamera newydd i’r clwb.’
OS ydych am geisio am gefnogaeth y Gronfa i glwb, sefydliad neu cymdeithas o fewn ffiniau etholaeth Llanfihangel ar Arth mae croeso i chi gysylltu gyda’r Gweinyddydd Meinir Evans am becyn ymgeisio ar y rhif ffôn 01559 395 699 neu drwy e-bost meinir.evans@ btinternet.com.
Bydd y dyddiad cau nesaf ar gyfer ceisiadau ar y 23ain o Chwefror. Bydd hefyd croeso i chi gysylltu os dymunwch gopi o Adroddiad Blynyddol y Gronfa.