Cyd-goginio Nadoligaidd
gyda Lisa Fearn, Y Sied
Ar nos Wener y 18fed o Ragfyr croesawyd nifer o bobl dros Zoom i gyd-goginio Pei gyda chig, saws llugaeron a stwffin cartref. Lisa Fearn sy’n rhedeg Ysgol Goginio Pumpkin Patch a pherchennog Y Sied oedd yn arwain y noson ac yn rhoi cynghorion defnyddiol a chyfarwyddiadau clir i bawb ar sut i fynd ati i wneud eu pei.
Roedd y bwyd i gyd yn edrych yn fendigedig ac rwy’n siwr i’r holl gyfranwyr gael pryd hyfryd yn dilyn y gweithdy hwn. Diolch o galon i Lisa am roi o’i harbenigedd ac arwain y gweithdy i ni.