Sesiynau cymorth digidol
AR ddechrau blwyddyn newydd beth am ddysgu sgiliau newydd?! Rydym fel Menter yn cynnig cymorth digidol. Gallwn gynnig cymorth i chi ddefnyddio unrhyw ddyfais neu i’ch helpu i ddatblygu unrhyw sgiliau digidol. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw cysylltu gyda ni a gallwn gynnig cymorth 1 i 1 i chi dros y ffôn neu dros Zoom.
Eisiau help gyda:
Ffôn symudol Tabled Cyfrifiadur Apiau E-bost Y rhyngrwyd Gwasanaethau ar-lein Zoom Skype Facebook Twitter Instagram Whatsapp Canva Snapchat Kahoot neu os oes gennych unrhyw anghenion eraill cysylltwch gyda ni am sgwrs. Cysylltwch ar 07939 962042 neu e-bostio ceris@mgsg. cymru i drefnu eich sesiwn.