Llwyddiant lleol
YN flynyddol mae’r Fenter yn cydweithio gyda Cyngor Tref Caerfyrddin i gynnal Cystadleuaeth dylunio Carden Santes Dwynwen.
Mae’r wobr yn cynnwys basged Masnach Deg a’r cardiau wedi’u hargraffu ar gyfer yr ysgol. Hoffai’r
Fenter longyfarch enillwyr cystadleuaeth 2020 sef Wil Elliott o Ysgol y Bedol (cyfnod Sylfaen) a Morgan Gould o Ysgol y Castell (cyfnod allweddol 2).