Adroddiad diwedd flwyddyn CFFI Llangadog
AR nôs Wener, Tachwedd 27, cynhaliwyd cwis rhithiol a drefnwyd gan gyn enillydd cwis y clwb sef Aaron Hughes, Godre Garreg.
Saith tim cymeroedd rhan gyda’r canlynol yn dod i’r brig –
1af – Lois Williams, Bronallt, Llangadog.
2ail – Ifan Williams a Jasmine Emerick, Llanwrda.
3ydd – Mari a Cadi James, Llanddeusant.
Adloniant ysgafn oedd thema cyfarfod rhithiol y clwb ar nôs Wener, Ragfyr 11, gyda 32 o aelodau a swyddogion yn bresennol o 16 o wahanol cartrefi’r ardal wledig. O dan arweinyddiaeth teulu’r James, Fferm Stangau, Llanddeusant, noson o flasu a chymharu selsig oedd y drefn. Dosbarthwyd un selsig yr un i bob aelod a’u teuluoedd o selsig porc a chennin a selsig porc a bricyll wythnos cyn y cyfarfod, cyfanswm o dros 200 o selsig!! Ar y noson, ar ôl tipyn o holi gyda sylwadau, cafwyd cadarnhad bod mwyafrif o aelodau wedi eu boddhau, gyda porc a bricyll yn dod i’r brig – felly mae’r broces o brofi cyn prynu yn wir!
Yn yr ail rhan o’r noson dangoswyd lluniau o’r 4 mochyn yn 8 wythnos oed yn cerdded ar y buarth yn ogystal a’u datblygiad hyd
at 6 mis oed yn porcers. Bu cyfle wedyn i ddyfalu pwysau y moch cyn derbyn 12 tip diddorol gan un o arweinyddion newydd y clwb, Cynghorydd Andrew James.
Rhannodd Andrew efo’r gynulleidfa gwybodaeth o fudd a ddaeth allan o lyfr a gyhoeddwyd e’i fam Winnie James i ddathlu llyfr o ryseitiau.
Noson o rannu ffeithiau yn ogystal a hiwmor oedd, felly er lles pawb, – a wyddoch, “os fod gwddwg tost efo chi, yn lle garglo dwr halen, blaswch ychydig o bort yn lle”. Mae’n debyg fod gwyrthiau yn gallu digwydd!
Wedi cael ei ysbrydoli gan hanes, hynt a helynt y moch, mae’r clwb yn falch i gyhoeddi fod Is-gadeirydd y Clwb, Carys Jones o Garreg Cyn Ffyrdd,
Gwynfe wedi prynnu 3 mochyn saddleback fel rhan o’i menter busnes newydd yn 2021. Pob lwc i ti Carys.
Yn anffodus, oherwydd Covid 19 a newidiaeth i drefn rheolau, bu rhaid gohirio ras hwylus y tractorau. Rydym yn gobeithio ail drefnu cyn diwedd y flwyddyn nesaf.
Cafwyd y raffl nadolig a oedd yn cynnwys hamper o fwyd ei dynnu ac yr enillydd oedd Mr Marcus Bickford o bwythynnod gwyliau Blaenllynnant, Gwynfe. Codwyd £162.00 tuag at gronfa ariannol y clwb.
Mae CFFI Llangadog am ddiolch yn fawr iawn i Lywydd y Clwb, Wendy Morgan, Nantgwynne,
Llanddeusant am noddi’r hamper fwyd nadolig. Hefyd, diolch i deulu Morgan, Swyddfa Bost Llangadog am gytuno i hyrwyddo’r raffl a gwerthu tocynnau ar adeg anodd i bobl gysylltu a chwrdd â’u gilydd.
Wrth i Glwb Ffermwyr Ieuainc Llangadog cloi ei rhaglen o weithgareddau am 2020, dymunwn fel swyddogion ac aelodau dweud diolch i holl fusnesau yr ardal am eu cefnogaeth a chymorth i bawb yn ystod pandemig 2020.
Edrychwn ymlaen yn eiddgar am iechyd ac normalrwydd yn 2021.