Newyddion Menter Gorllewin Sir Gâr
O dan yr amgylchiadau presennol, mae Menter Gorllewin Sir Gâr yn gweithio i ddarparu gweithgareddau a sesiynau i chi allu barhau i gymdeithasu a byw yn Gymraeg yn ddigidol. Dyma gyfle i edrych yn ôl ar ddiwedd 2020 ac edrych ymlaen at sesiynau newydd a chyffrous 2021.
Yng nghanol prysurdeb Nadolig gwahanol iawn yn 2020, llwyddodd y Fenter i greu naws Nadoligaidd yn rhithiol. Cynigwyd sawl sesiwn yn cynnwys Noson Creu Torch Drws Nadolig gyda Wendy Davies, Blodau Blodwen a Noson Cyd-goginio Pryd Nadoligaidd gyda Lisa Fearn, Y sied.
Dyma ddyfyniadau gan ddwy wnaeth fynychu’r sesiynau yma:
■ Noson Creu Torch:
“Diolch yn fawr iawn i’r Fenter am drefnu noson creu torch. Fel arfer rwy’n mynd gyda chriw o ffrindiau i greu torch yn y pentref ond roedd hyn yn amhosib eleni. Roedd y sesiwn yma wedi galluogi ein bod yn creu torch yng nghwmni ein gilydd yn ddigidol. Roedd gwybodaeth Wendy’n ddefnyddiol wrth iddi esbonio beth oedd y planhigion a sut allwn ddod o hyd iddynt yng nghefn gwlad. Cafom llawer o hwyl a chwerthin wrth greu’r dorch ac roedd Wendy’n esbonio’n drylwyr ac yn amyneddgar iawn gan fod cymysgedd o unigolion mwy profiadol na’i gilydd. Hyfryd oedd mwynhau diod dwym o fy nghartref i greu naws Nadoligaidd wrth gychwyn mewn i gyfnod y Nadolig. Edrychaf ymlaen at y sesiwn nesaf gyda Wendy. Diolch hefyd i Ceris o’r Fenter am gyfathrebu’n effeithiol ac i sicrhau fy mod yn derbyn fy mhecyn torch yn ddiogel gan ddilyn y canllawiau”.
■ Noson Cyd-goginio:
“Braf oedd treulio nos Wener cyn y Nadolig yn cymdeithasu ar Zoom gyda chriw o wynebau newydd. Rwyf wedi mynychu sesiynau gyda Lisa o’r blaen a wedi gweld eisiau mynychu sesiynau coginio dros gyfnod y pandemig. Nod y sesiwn oedd coginio pei Nadoligaidd gyda saws llugaeron, a chafom gyfle i holi cwestiynau yn ystod y sesiwn. Fe wnes i fwynhau bod y sesiwn yn Gymraeg gan fy mod yn siarad Saesneg yn y cartref a ddim yn cael y cyfle i ddefnyddio’r Gymraeg mor aml a hoffwn. Bonws hefyd oedd bod y gwr wrth ei fodd gyda swper blasus. Diolch MGSG am drefnu”
■ Hyfforddiant Digidol i Rieni:
Rydym fel Menter wedi bod yn cynnig hyfforddiant digidol i rieni ar systemau’r plant sy’n cynnwys rhaglenni megis Teams, Google Classrooms, Google Drive a Hwb. Rydym yn awyddus i gydweithio gydag unrhyw ysgol fyddai’n hoffi cynnig yr hyfforddiant hwn i’w rhieni.
Wrth gamu mewn i 2021 mae sesiynau’r Fenter wedi ail-gychwyn.
Os rydych yn chwilio am gyfleoedd i gymdeithasu neu ymarfer eich Cymraeg mae nifer o sesiynau ar gael drwy’r Fenter gyda’r nos.
■ Clybiau Darllen:
Mae Menter Gorllewin Sir Gâr yn trefnu dau glwb darllen sy’n cwrdd unwaith y mis ar-lein. Mae Clwb Darllen i oedolion yn cwrdd bob trydedd nos Fawrth y mis am 7yh a chlwb darllen i ddysgwyr yn cwrdd ar nos Fawrth olaf pob mis am 7yh. Dyma gyfle i ddod ynghyd i gymdeithasu a thrafod nofelau cyfoes.
■ Sgyrsiau Cefn Gwlad:
Mae’r fenter yn falch o allu cydweithio gyda Chlybiau Ffermwyr Ifanc Sir Gâr i gyflwyno cyfres o ‘Sgyrsiau Cefn Gwlad’. Cyfle i ddod ynghyd ar-lein i wrando ar siaradwr gwadd yn trafod amryw o bynciau. Bydd cyfle hefyd i holi cwestiynau. Eisoes, rydym wedi cynnal dwy noson lwyddiannus yng nghwmni Meinir Howells a Jin Talog. Rydym yn cwrdd nos Fercher unwaith y mis (dyddiad i’w gadarnhau) am 7:30yh. Cadwch lygad ar ein cyfryngau cymdeithasol am fanylion ein siaradwr nesaf.
■ Coffi a Chlonc:
Dyma gyfle i ddod ynghyd i sgwrsio a chymdeithasu dros banned bob bore ddydd Iau am 10.30yb. Mae’r gweithgaredd yma yn addas ar gyfer dysgwyr neu siaradwyr rhugl. Croeso cynnes i bawb.
■ Cystadleuaeth Ffotograffiaeth: A oes diddordeb gennych chi mewn dynnu lluniau ar eich ffôn neu gamera? Mae’r fenter yn trefnu cystadleuaeth ffotograffiaeth wythnosol ar gyfer oed cynradd, uwchradd ac oedolion gyda themâu amrywiol. Gwybodaeth lawn i weld ar dudalennau cyfryngau cymdeithasol y Fenter.
■ Clwb Joio Drama:
Rydym wedi dechrau clwb newydd yn ystod y cyfnod yma ar y cyd gyda Theatr Genedlaethol Cymru i blant blynyddoedd 2, 3 a 4 rhwng 5:00 a 6:00 ar nos Fercher. Clwb sydd yn cynnig cyfle i blant datblygu sgiliau a magu hyder mewn awyrgylch hamddenol. Cysylltwch gyda’r Fenter am fwy o fanylion.
■ Cyfryngau Cymdeithasol: Gyda’r cyfyngiadau yn newid o hyd, mae gwaith y fenter yn newid gydag amryw o ddigwyddiadau a gweithgareddau yn cael eu cynnal ar-lein, o sesiynau stori, gweithgareddau crefft, gweithgareddau coginio, chwil eiriau a sesiynau ffitrwydd. Am y diweddaraf, ewch i’n cyfryngau cymdeithasol:
■ Facebook - Menter Gorllewin Sir Gar
■ Trydar - @Mentergsg
■ Instagram - @Mentergsg
■ E-bost - ceris@mgsg.cymru
Neu am fwy o wybodaeth ar sut i gyrraedd y platfformau yma cysylltwch gyda Ceris dros y ffôn: 07939 962042.