Carmarthen Journal

Tîm Criced Merched Caerfyrddi­n a’r cylch

- Heledd ap Gwynfor

YN gynnar iawn yn y flwyddyn 2020, daeth criw o ferched y dref – a rhai o bentrefi cyfagos – at ei gilydd yn y cwad – ardal dan dô y brifysgol sydd yn cynnal amrywiol chwaraeon. Y bwriad oedd creu tîm criced i ferched. Mae gan y dynion dîm yn y dref, ac wrth gwrs ym Mronwydd, ond does dim sôn wedi bod am dîm i ferched.

Syniad Elin Lloyd oedd creu tîm merched: “Roedd gen i fat, stumps ac offer gwahanol ar gyfer criced, ond doedd gen i neb i’w chwarae” medd Elin sydd yn byw yn Abergwili “O’n i’n meddwl basen i yn mwynhau cael fy nysgu i chwarae criced, a byddai’n grêt gallu cael criw ynghyd i’w chwarae a chael hwyl cymdeithas­ol hefyd.”

Wedi trafod gyda Steve a Colin sydd yn chwarae gyda thîm criced y dynion yn Bronwydd, daeth criw ynghyd a chael cyfle i bowlio a thaflu dan dô. Ac yna daeth cyfnod y clo yn mis Mawrth, ac yn ei sgil, daeth stop ar gwrdd yn gymdeithas­ol ac ar chwaraeon yn gyffredino­l.

Wrth i’r rheolau lacio damaid, a gyda modd cwrdd ar gyfer chwaraeon awyr agored, dechreuom ail gwrdd ar gaeau Bronwydd yn yr haf, gan fanteisio ar dywydd hyfryd, a hyd yn oed ymarfer bowlio yn y rhwydi mewn glaw mawr! Mae un o’r merched yn teithio o Gorslas i gael chwarae, medd Jenny Jones: “Mae’r hwyliau ymysg y merched yn grêt – lot fawr o chwerthin, anogaeth a thynnu coes. Mae’n gyfle i beidio meddwl yn fwy na sut mae bwrw’r bêl yn bell, neu os gallaf fwrw’r stumps gyda’r belawd nesaf! Rwy’ wrth fy modd yn chwarae ac yn disgwyl ‘mlaen ail gwrdd pan ddaw’r gwanwyn gobeithio.”

Os hoffech chi ymuno â ni (dechreuwyr neu hen law yn cael croeso mawr!) yna cysylltwch ag Elin Lloyd drwy naill ai ffonio 07908 727041 neu e bostio elinydelyn@hotmail.co.uk

Does dim dwywaith ein bod yn edrych ymlaen yn fawr iawn i’r diwrnodau ymestyn er mwyn cael ail gwrdd ar gaeau Bronwydd.

 ??  ??

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom