Straeon yn chwarae rhan yn ein hiechyd a lles
YCH chi’n gyfarwydd ag ymgyrch straeon ‘Humans of New York’? Cyfres o straeon a gyflwynir yn bennaf ar-lein, ar draws ein sianeli cyfryngau cymdeithasol. Casgliad o storïau sy’n eiliadau o brofiadau unigol a phrofiadau wedi eu rhannu. Maent weithiau yn bositif, yn deimladwy, yn llawen ac yn llawn hiwmor, yn ysbrydoledig ac weithiau yn dywyll neu’n annifyr, ond i gyd yn ddynol gynhenid.
Dechreuodd y cyfan fel prosiect ffotograffiaeth yn 2010. Y nod cychwynnol oedd tynnu llun 10,000 o drigolion Efrog Newydd ar y stryd, a chreu catalog cynhwysfawr o drigolion y ddinas.
Rhywbryd yn ystod y prosiect dechreuodd yr awdur, Brandon Stanton gyfweld â’r bobl yn ogystal â thynnu lluniau ohonynt. Ochr yn ochr â’u portreadau, roedd yn cynnwys dyfyniadau a straeon byrion o’u bywydau.
Gyda’i gilydd, daeth y portreadau a’r capsiynau hyn yn destun blog bywiog. Dros y pum mlynedd diwethaf, mae’r blog hefyd wedi ehangu i gynnwys straeon o dros ugain o wahanol wledydd ac mae’r gwaith i’w weld mewn dau lyfr poblogaidd erbyn hyn: Humans of New York a Humans of New York: Stories. Mae cannoedd o flogiau eraill ‘Humans of’ wedi eu datblygu gan bobl eraill mewn gwahanol ddinasoedd ledled y byd yn dilyn dylanwad y blog gwreiddiol. Erbyn hyn mae dros 20 miliwn o ddilynwyr gan ‘Humans of New York’ ar draws llwyfannau’r cyfryngau cymdeithasol yn rhoi cipolwg dyddiol i gynulleidfa fyd-eang ar fywydau dieithriaid ar strydoedd dinas Efrog Newydd.
Mae gennym i gyd stori i’w dweud a’i hadrodd ac mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi profi i ni gyd pa mor bwysig yw siarad a rhannu’r baich. Mae gan rannu straeon allu pwerus i ddod â phobl o bob lefel a disgyblaeth ynghyd, eu helpu i ddeall safbwyntiau ei gilydd a dod o hyd i dir cyffredin.
Mae adrodd straeon yn ymwneud â siarad yn onest a gwrando o ddifrif. Mae ynghylch gofyn yn feiddgar ac ateb yn ddi-ofn. Mae ynghylch rhannu o’r galon ar adeg pan mae sgyrsiau’n bwysicach nag erioed. Nid yw adrodd straeon yn ymwneud â straeon tylwyth teg a chwedlau mae’n ymwneud â bod yn ddilys gyda’r rhai yr ydych yn poeni amdanynt, oherwydd amser yw’r peth mwyaf gwerthfawr sydd gennym nawr.
Byddwn yn myfyrio am y cyfnod hwn mewn blynyddoedd i ddod a ‘does dim dwywaith y bydd yn gyfnod mewn hanes - Cyfnod Cofid! Dylem i gyd wneud rhyw fath o gofnod i gydnabod y cyfnod, mae nifer o bethau da i’w cofnodi fel amser gwerthfawr gyda’r teulu, arafu tempo bywyd a gwella’r amgylchedd yn ogystal â cholledion poenus a heriau mawr.
Gall straeon fod yn iachusol iawn ac mae llawer o bobl yn elwa o gael y cyfle i drosglwyddo eu doethineb i eraill.
Mae adrodd straeon yn amlygu ei hun fel ffordd i wella ansawdd bywyd sy’n gysylltiedig ag iechyd a lles.
Canfu adroddiad diweddar fod adrodd straeon i gleifion deliriwm oedrannus mewn uned gofal acíwt wedi peri iddynt gael sgôr sgrinio deliriwm is pan gawsant eu rhyddhau o’r ysbyty.
Er bod angen mwy o ymchwil, mae’r astudiaeth hon ac eraill tebyg iddi yn cefnogi’r syniad y gall adrodd straeon a rhaglenni celfyddydol eraill chwarae rhan bwysig mewn iechyd a lles.
Mae Covid-19 wedi creu llif o arwahanrwydd a gwahanu llythrennol i lawer, gall adrodd straeon bontio’r bwlch hwnnw a dod â phobl ynghyd unwaith eto.
Mae yna ddihareb Tsieineaidd sy’n nodi, “Dwed wrthyf ac fe anghofiaf. Dangos i mi ac fe gofiaf. Cynnwys fi ac fe ddeallaf. ”
Mae dweud straeon yn caniatáu i ni gysylltu’n emosiynol â’n cynulleidfa a’u cynnwys yn y diweddglo.
Mae gan storïau’r pwer i’n clymu gyda’n gilydd a dangos pa mor anhygoel o wahanol ydyn ni fel bodau dynol.
Mae rhannu, tystio, dathlu straeon ein gilydd yn un o freintiau mawr dynoliaeth.
Mae storia wrth wraidd holl waith Theatr Felinfach, boed ar lwyfan mewn perfformiad neu drwy ddod â grwpiau at ei gilydd i drafod.
Mae rhannu straeon yn sbardun ac allbwn i’n gwaith ac yn dangos perthnasedd pobl â’r celfyddydau perfformio a theatr, ac yn cyfleu’r golled o brofi bywyd pe na fyddent yno.