Cylch Cinio Llandysul
AR ôl cyfnod hir heb gwrdd wyneb yn wyneb yng Nwesty’r Porth oherwydd Covid-19, penderfynodd y pwyllgor taw’r ffordd ymlaen oedd cynnal cyfarfodydd misol ar Zoom er mwyn cymdeithasu a chael ychydig o hwyl.
Ar Ionawr 4, 2021, croesawodd y cadeirydd Breian Teifi nifer dda o’r aelodau i’r cyfarfod ac i gymeryd rhan mewn cwis a bartowyd gan Aled Jones. Yna beirniadwyd cystadleuaeth y Limrig a’r Frawddeg (gosodwyd y tasgiau hyn ymlaen llaw). Daeth y cyfarfod i ben gyda rhai o gomedïwyr y cylch drwy ddweud jôcs.
Ar Chwefror 1 gwnaethom gwrdd eto ar Zoom a chroesawyd pawb gan ein cadeirydd Breian Teifi. Estynnwyd cydymdeimlad â theuluoedd y diweddar Ganon Haydn Rowlands a William Kiff, y ddau yn gyn aelodau o’r Cylch Cinio. Eifion Evans, prif weithredwr Cyngor Sir Ceredigion, oedd ein siaradwr gwadd a bu’n egluro effaith Covid-19 ar y cyngor sir, a’r strwythur sydd wedi’i roi yn ei le i reoli lledaeniad y feirws. Y Cynghorydd Keith Evans bu’n diolch i Eifion Evans. Derbyniwyd mantolen ariannol y cylch am y flwyddyn 2020 a mynegwyd gwerthfawrogiad i’r trysorydd. Terfynwyd y gweithgareddau gyda chwis bach sydyn, beirniadaeth cystadleuaeth capsiwn i’r lluniau a dweud ychydig o jôcs.