Carmarthen Journal

KIDS’ PUZZLES!

-

SPOT THE DIFFERENCE

YDYCH chi’n hapus fod Pobl y Cwm nôl ar eich sgrîn bedair gwaith yr wythnos? Ydych gwlei! Pa le bynnag fo lleoliad yr opera sebon, boed Cwmderi, Glanrafon, Albert Square, pentrefi ffuglennol yn Swydd Efrog ac ardal Caer, neu’r stryd enwog ’na ym Manceinion, gallaf glywed enwau’r cyfresi hyn a rhai o’r cymeriadau’n byrlymu dros eich gwefusau!! Nawr dyma i chi gwestiwn. Ydyn ni’n adnabod ein cymdogion go iawn gystal â chymeriada­u’r operâu sebon?

I lawer o bobl, mae gwylio operâu sebon yn un o ddefodau bach bywyd – ffordd o ymlacio ar ddiwedd y dydd. Dydyn nhw ddim yn gallu dioddef colli unrhyw bennod. Maen nhw’n becso am y cymeriadau ac weithiau’n anghofio’r ffin rhwng y cymeriadau ffuglennol a’r actorion go iawn! Mewn rhai achosion, mae’r bobl wedi gwirioni cymaint yn yr opera sebon fel eu bod wedi mynd i gredu mai’r actorion mewn gwirionedd yw’r cymeriadau maen nhw’n eu chwarae.

Mae’n syndod faint ohonom sydd wedi dod i adnabod llawer o gymeriadau cymdogol yr operâu sebon yn dda drwy ddilyn eu hynt a’u helynt bron yn ddyddiol. Ond dyma holi eto - beth am ein cymdogion go iawn?

Does dim ffordd well o ymarfer na thrwy gerdded yn gyson, medden nhw.. Ac rydyn ni’n ffodus yng Nghymru bod gennym lwybrau cerdded mor ardderchog – ar hyd yr arfordir ac yng nghefn gwlad. Mae’r weithred syml o fynd am dro’n gallu gwneud i ni deimlo’n llawer gwell. Mae’n dda i’n hiechyd corfforol a meddyliol ac, ar ben hynny, mae’n rhad! Diolch byth, gallwn fwynhau mynd am dro hyn yn oed yn y cyfnod anodd hwn – dim ond i ni gadw pellter diogel ac aros yn lleol. A does unman yn fwy lleol na’n stryd ni ein hunain!

Maen nhw’n dweud hefyd mai drwy gerdded eich stryd y down i adnabod ein cymdogion yn well. Mae hynny’n cael ei ategu gan lawer ohonom y dyddiau hyn. Dw i’n bersonol yn cerdded llawer mwy yn ystod y pandemig ar ôl treulio llawer gormod o flynyddoed­d yn rhy gaeth i’r car, hyd yn oed ar gyfer y siwrnai leiaf. Beth amdanoch chi?

Wrth gerdded i fyny ac i lawr y stryd yn rheolaidd mae rhywun nid yn unig yn dod i adnabod ei gymdogion ond hefyd yn cael rhyw olwg newydd a ffres ar ei gymdogaeth.

Gobeithio’n wir na fydd perygl i minnau ac eraill ddychwelyd i arferion gwael ar ôl derbyn y brechiad.

Does ond gobeithio y byddwn yn parhau i gerdded, lle bo hynny’n bosibl, yn hytrach na neidio i mewn i’r car ar y cyfle cyntaf.

Fe ddywedodd rhywun bod byd yr operâu sebon fel drws troi. Un funud mae’r cymeriadau yno a’r funud nesaf maen nhw wedi mynd ac eraill wedi dod yn eu lle. Rhaid dal ati i wylio’r cyfresi er mwyn dala lan â’r newidiadau. Felly mae hi mewn bywyd go iawn hefyd. Dal ati i gerdded y stryd yn gyson yw’r ffordd orau i barhau i gadw mewn cyswllt â’n cymdogion a dala lan â’r newyddion.

Ble mae’r ffon ‘na?

Carlo, bant â ni!

Dere’n gloi,

 ??  ??
 ??  ?? Can you spot the six difference­s between the pictures below?
Can you spot the six difference­s between the pictures below?

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom