Carmarthen Journal

Bargod Rangers

- Peter Hughes Griffiths

TIM pel droed ardal Drefach Felindre yn nyffryn Teifi yw Bargod Rangers, ac wedi ei sefydlu ers 1880 - dros gant a deugain mlynedd yn ôl. Ond mae’r clwb yn dal i chwarae o hyd yng Nghygrair Ceredigion. Bargod Rangers mae’n debyg oedd un o’r pedwar clwb cyntaf i sefydlu’r gynghrair honno.

Cafodd y tim ei enwi am fod yr afon Bargod yn rhedeg trwy ganol y pentref, a than canol y ganrif ddiwethaf ar gae Llysnewydd Meadow roedd y tim yn chwarae eu gemau cartref, ac yna o’r 1960’au ymlaen ar Barc Puw yng nghanol y pentref, a gyferbyn a’r Amgueddfa Wlan Genedlaeth­ol. Yn rhyfedd iawn nid oes neb wedi canfod hyd yn hyn pam yr galwyd y cae presennol yn ‘Parc Puw’.

Roeddwn i yn lwcus iawn, am fy mod yn aelod o dim Bargod Rangers pan enillon nhw dri chwpan yn yr un tymor sef Pencampwri­aeth y Gynghrair, Cwpan Roderick Bowen a’r ‘Bay Cup’, a hynny ddwy waith yn 1957 a 1962. Doedd neb wedi cyflawni’r gamp honno ‘cynt na chwedyn.’

Heb os dyma gyfnod ‘oes aur’ y clwb, ac yn cynnwys bechgyn lleol, gyda nifer o rheini maes o law yn gadael yr ardal ac yn dod yn enwau cenedlaeth­ol.

Ond, un o’r chwaraewyr ffyddlonaf a welodd y clwb oedd John Newcombe. Bu’n chwarae i Bargod Rangers am gyfnod hir iawn gan fyw a gweithio yn lleol ar hyd ei oes. Do, bu John yn was da i Bargod Rangers.

Sawl blwyddyn yn ol bellach, fe dorrodd y ‘mashin olchi’ yn ein ty ni, a dyma ffonio John Newcombe i ddod i’w riparo. Fe ddaeth John, ac wrth iddo fynd ati i weld beth oedd o’i le fe ddechreuon ni siarad am y dyddiau pan oedd y ddau ohonom yn chwarae yn yr un tim i Bargod Rangers. A dyma fi’n dweud wrth John,

“Wyt ti yn cofio pwy oedd yn yr un tim a ni John yr adeg honno? Ti’n cofio Gareth Crompton, fe ddaeth e yn Brif Feddyg y llywodraet­h dros Gymru gyfan. A wedyn Roy James a ddaeth yn Brif Arolygwr Ysgolion Cymru gyfan. A beth am Roy Davies yn Is-ganghellor Coleg y Brifysgol, Bangor, ac Edward Griffiths yn bregethwr yn Llandeilo a Einsley Harries y dyn busnes mwyaf llwyddiann­us a welodd gorllewin Cymru. Wyt ti’n cofio y bois enwog hyn John yn chwarae yn yr un tim a ni?”

“Ydw. Ti’n iawn,” meddai John. “Ma nhw yn bobol bwysig, enwog a clyfar iawn – ond cofia sdim un ohonyn nhw yn gallu riparo mashin olchi!”

A diolch i Johnn Newcombe am fy atgoffa y diwrnod hwnnw nad yw pwy ych chi, na beth yw eich cefrndir, na beth fyddwch chi yn effeithio dim ar y ddawn o chwarae pel droed. Do, fe ddysgodd John wers sylfaenol i fi wrth riparo’r mashin olchi.

A diolch i dim pel droed Bargod Rangers am y profiad o gael cyd-chwarae gyda rhai o’n mawrion gan gynnwys John Newcombe.

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom