Disgo Cwis
AR y 1af o Chwefror ail-ddechreuwyd ar ein cyfres boblogaidd Disgo Cwis. Gweithgaredd yw hon sy’n addas i blant cynradd. Cyfle iddynt gymdeithasu a phwyslais ar fwynhau! Bu’r ymateb i’r weithgaredd yn aruthrol gyda niferoedd uchel yn cofrestru ar ei gyfer.
Cafwyd digon o joio wrth i’r plant ymroi i ddawnsio bywiog i gerddoriaeth Gymraeg, cwis ac wrth gwrs helfa o gwmpas y ty.
Mae’r Disgo Cwis yn weithgaredd wythnosol ac edrychwn ymlaen i gwrdd â’r criw brwd eto wythnos nesaf!