Carmarthen Journal

Meinir Ffransis GAIR O’R GORLLEWIN Cyfnod unigryw

-

BU’R flwyddyn ddiwethaf yn gyfnod rhyfedd iawn i bawb. Mae lot fawr wedi digwydd sy’n codi ein calonnau am y natur ddynol - yr holl garedigrwy­dd a chymorth sydd wedi arllwys mas ac unigolion a chymunedau yn estyn llaw at eraill, yn aml heb gyfri’r gost iddyn nhw eu hunain.

Yn anffodus, nid dyma’r unig wedd ar y natur ddynol wrth gwrs, ac mae gweithredo­edd anfoesol a thrachwant nifer o’n gwleidyddi­on, yn enwedig yn Llundain, wedi corddi a digio pawb sy’n dymuno gweld byd mwy cyfartal a chyfiawn. Ceir yng Nghymru a thu hwnt hanes clodwiw o bobl yn ymladd dros gyfiawnder a brwydro yn erbyn anghyfiawn­der; mae’r Mesur yr Heddlu a Throseddu sy’n mynd drwy’r senedd yn San Steffan yn berygl enfawr i’r rhai sydd am godi llais yn erbyn anghyfiawn­der. Gellir erlyn pobl am achosi “Anifyrwch Difrifol”(serious Annoyance) gan adael y diffiniad o beth a olygir gan hynny yn agored! Yn sicr byddai’r Toriaid wedi arestio Iesu am foelyd y byrddau yn y Deml a phregethu cyfiawnder!

Yn Pencader rydym wedi defnyddio’r cyfnod clo i geisio gweithredu mewn ffordd ymarferol i ddangos cariad Iesu. Anodd meddwl am Dduw Cariad yn ein bendithio ar adeg argyfwng fel hyn pryd y gall problem fawr Covid ailymweld â’n cymunedau ar unrhyw bryd. Ac mae pobl, yma yn ein plith a thraws y byd, sy’n gweld hwn fel un argyfwng arall ar ben y lleill - newyn, tlodi, diweithdra,colli teulu a ffrindiau,iselder, diffyg gobaith am y dyfodol. A’r cyfan wedi’i chwyddo gan drachwant ac ariangarwc­h dyn.

Ond nid yw Duw wedi addo bywyd rhwydd i ni, mae’r byd yr hyn ydyw yn aml oherwydd fod pobl wedi creu anhrefn ynddo.

Yr hyn mae Duw wedi ei addo yw ei gariad a nerth a chwmni ei Ysbryd i’n cynnal ac arwain trwy bopeth os trown ato. Gwelwn Ysbryd Duw ar waith mewn swn chwerthin plant, yng ngogoniant y wlad a roddodd i ni ofalu amdani, yn y cariad sy’n ein clymu ynghyd, yn ein hawydd i greu cymdeithas deg y gall pawb fod yn rhan ohoni, mewn cymwynasau, ac yn y gwahoddiad - er gwaetha’n holl

Cystadleua­eth Limrig a Brawddeg: Eleni trefnwyd cystadleua­eth ar y cyd rhwng y Fenter, Cyngor Tref Caerfyrddi­n ac Ysgol Farddol Caerfyrddi­n i ysgrifennu limrig a brawddeg ar gyfer oedolion ac oed uwchradd. Hoffem ddiolch i Geraint Roberts am feirniadu’r gystadleua­eth. Llongyfarc­hiadau mawr i bawb gystadlodd ac i bawb ddaeth i’r brig. Dyma’u gwaith: gwyno - i ni fyw yn yr Ysbryd a’r bywyd hwnnw nad sy’n ofni, yn caru i’r eithaf ac yn parhau. Does dim sicrwydd materol mewn bywyd, ond mae sicrwydd a diogelwch yng nghariad Duw sy’n gwmni i ni trwy bopeth.

Gwelwn ei Ysbryd ar waith yn awydd pobl i helpu eraill. Os ydych chi wedi bod yn clirio neu dacluso ty, mae Coda Ni yn ardal Pencader yn gallu casglu bagiau o ddillad a defnyddio’r arian i helpu rhai sy’n methu gweld ffordd ymlaen.

Ers nifer o flynyddoed­d mae criw yma wedi bod yn casglu a didoli dillad ac wedi codi miloedd at wahanol achosion lleol ac mewn gwledydd tlawd sy’n datblygu. Buom yn cyfrannu’n helaeth at Fanc Bwyd Llandysul a chronfa arbennig i sicrhau bwydydd ffres i deuluoedd yn yr ardal, ac yn ddiweddar mae canoedd o bunnau wedi cael eu cyfrannu i Breakthro Nantgaredi­g sy’n gofalu am blant ag anghenion arbennig ac i’r lloches i wragedd yng Nghaerfyrd­din. Rydym wedi cefnogi a sefydlu mentrau yn rhai o ardaloedd tlotaf Burkina Faso a chefnogi gwaith cenhadwr sydd yn weithgar yn yr ardaloedd hynny; ac yn ddiweddar yn cyfrannu mil at ymdrech Cymorth Cristnogol i sicrhau brechiadau rhag Covid i wledydd tlotaf y byd.

Ffoniwch Fioled ar 0779114656­2 a threfnwn gasglu. Yn ogystal â bod o gymorth mawr i nifer o bobl mewn angen, mae hefyd yn ddarlun o fel y mae Duw yn gallu gafael yn ein bywydau ni gyda’n holl feiau ac yn gweld gwerth mawr a phwrpas newydd i ni. Felly hefyd y gall eich dillad ail law gael eu rhoi ar waith at bwrpasau newydd

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom