Carmarthen Journal

Bore’r Blaguro: Egni yn yr Egin

- Gan Hanna Hopwood Griffiths

ROEDD yr haul yn tywynnu a chyffro yn y gwynt. O’r diwedd! Cyfle i ddod at ein gilydd - tu allan ac o bellter, a chyfle i Brynmor, fy mab ifanca’, gymdeithas­u gydag aelodau eraill o Sir Gaerfyrddi­n am y tro cyntaf ers iddo gael ei eni ddiwedd Ionawr 2020.

Bron yr oeddwn yn teimlo bod yr Yaris bach coch yn cyffroi hefyd wrth i’w drwyn droi tuag at gampws Yr Egin ac yntau hefyd yn profi’r cyfle i ymestyn ei orwelion ychydig ymhellach na’r archfarchn­adoedd lleol. “Ble y ni’n mynd?” holodd Aneirin, yn hanner synhwyro bod heddiw am fod ychydig yn wahanol. Esboniais ein bod yn cael mynd i adeilad ysblennydd Yr Egin - wel, tu fas, a bod yn fanwl gywir, er mwyn plannu hadau ar gyfer gardd gymunedol newydd. Eiliad o dawelwch. Ac fel pob plentyn bach, chwilfrydi­g sy’n ceisio gwneud synnwyr o bethau, fe holodd gwestiynau lu: Pam, gyda phwy ac a fydd cacen? A rhag ofn bod rhywrai ohonoch chi hefyd â’r un awydd i wybod mwy, fe rannaf yr atebion â chithau hefyd. Pam?

Ffrwyth llafur prosiect “Blaguro” gan Yr Egin fydd yr ardd gymunedol ar dir yr adeilad, sy’n cyfuno gwaith ymarferwyr creadigol gyda grwpiau cymunedol ar draws y Sir. Mae’r grwpiau wedi dechrau cyfarfod â’i gilydd er mwyn trafod syniadau am yr hyn y byddent yn dymuno ei weld yno, a’r arweinwyr creadigol hefyd wedi bod yn dal gafael ar yr awenau i gyd. Un syniad oedd bod angen tyfu llysiau, ac o ganlyniad roedd angen dechrau’r gwaith o hau’r hadau!

Gyda phwy?

Lisa Fearn o’r Sied arweiniodd y sesiynau i’r grwpiau oedd wedi archebu slot o flaen llaw. O dan arweiniad Lisa a’i gallu hyfryd i dynnu plant ac oedolion at ei gilydd, cafwyd cyfle i ddysgu am bridd, dysgu am hadau o bob maint a siâp a chyfle wrth gwrs i blannu. Wrth i’r gweithdy dynnu at ei derfyn, addawodd Llinos Jones, swyddog ymgysylltu yr Egin ac un o arweinwyr y prosiect, y byddai’n gofalu am yr hadau ac yn gwneud yn siwr eu bod yn derbyn y gofal gorau tan ei bod hi’n amser ymweld eto â nhw, a chyda clustiau’r garddwyr bach oll yn effro, gwn y bydd yn cadw at ei gair (dim pwysau, Llinos!).

Ac: a oedd cacen?

Wel yr ateb yn syml yw – oedd! A honno’n fendigedig! Wn i ddim os ydych chi wedi clywed, ond mae caffi Yr Egin bellach o dan arweiniad y Sied, a gallwch chi ymweld â nhw yno rhwng 11 a 2. Y gobaith yw y bydd y llysiau gaiff eu plannu ar dir Yr Egin yn cael eu defnyddio yn y caffi maes o law a chyfle i brofi cynnyrch sy’n dod yn syth o’r pridd i’r plât. Dwi’n teimlo’n ffodus iawn i gael bod yn rhan o brosiect Blaguro, ac roedd hi’n hyfryd cael bod yng nghwmni cyfeillion a chymdogion unwaith eto. Os oes gennych gwestiynau am y prosiect, cysylltwch â helo@yregin. cymru

 ??  ??

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom