Penwythnos Siarad Cyhoeddus Rhithiol CFFI Sir Gâr 2021
CYNHALIWYD cystadleuaeth Siarad Cyhoeddus Ffederasiwn Ffermwyr Ifanc Sir Gaerfyrddin yn rhithiol am y tro cyntaf erioed ar ddydd Sadwrn 27ain a dydd Sul 28ain o Fawrth. Er yn brofiad newydd i’r Sir, roedd safon y cystadlu dal i fod yn uchel iawn dros yr 8 adran wahanol.
Diolch i’r stiwardiaid am sicrhau fod y diwrnod yn rhedeg yn llyfn. Rydym hefyd yn ddiolchgar iawn i’r holl hyfforddwyr am roi o’u hamser i hyfforddi’r aelodau. Diolch yn fawr iawn i’r holl feirniaid am eu gwaith gwych yn ystod y dydd.
Pob lwc i’r holl aelodau fydd yn cynrychioli’r Sir ar lefel Cymru ddiwedd mis Ebrill!
Siarad Cyhoeddus Cymraeg Adran Ddarllen
Miss Naomi Nicholas cafwyd y dasg o feirniadu 8 tîm yng nghystadleuaeth y darllen o dan 15. Dyma’r canlyniadau:
Tîm buddugol: CFFI Penybont –
Celyn Richards, Olwen Roberts a Gilbert Roberts
Unigolyn Gorau: Celyn Richards, CFFI Penybont
Adran Iau
Yng nghystadleuaeth yr Adran Iau i aelodau dan 17, Mr Cennydd Jones oedd â’r dasg o feirniadu, gyda 4 tîm yn cystadlu. Dyma’r canlyniadau:
Tîm Buddugol: Tîm Swyddfa – Gwenno Roberts, Sara Jones (CFFI Llanfynydd) a Lois Davies (CFFI Llangadog)
Unigolyn Gorau: Gwenno Roberts, CFFI Llanfynydd
Adran Ganol
Mr Wyn Thomas oedd yng ngofal yr Adran Ganol. Roedd 2 dîm yn y gystadleuaeth yma a dyma’r canlyniadau:
Tîm Buddugol: CFFI Llanllwni – Betsan Jones, Cathrin Jones a Sioned Howells
Unigolyn Gorau: Sioned Howells, CFFI Llanllwni
Adran Hyn: Cafwyd cystadleuaeth dda iawn yn y gystadleuaeth yma rhwng 7 tîm cryf iawn. Mr Wyn Thomas oedd gyda’r dasg o feirniadu a dyma’r canlyniadau:
Tîm Buddugol: CFFI Penybont – Mared Evans, Fiona Phillips, Elen Jones a Cadi Evans
Unigolyn Gorau: Elen Jones, CFFI Penybont
Siarad Cyhoeddus Saesneg
Adran Ddarllen
Miss Angharad Edwards cafwyd y dasg o feirniadu 3 tîm yng nghystadleuaeth y darllen o dan 15. Dyma’r canlyniadau: Tîm buddugol: CFFI Llangadog – Lois Davies, Abner Evans a Ilan Dafydd
Unigolyn Gorau: Lois Davies,
CFFI Llangadog
Adran Iau
Yng nghystadleuaeth yr Adran Iau i aelodau dan 17, Mrs Jill George oedd â’r dasg o feirniadu, gyda 2 dîm yn cystadlu. Dyma’r canlyniadau:
Tîm Buddugol: CFFI Llanddarog
– Morgan Davies, Rhys Griffiths a Ellis Davies
Unigolyn Gorau: Morgan Davies, CFFI Llanddarog
Adran Ganol
Miss Kate Miles oedd yng ngofal yr Adran Ganol. Roedd 3 thîm yn y gystadleuaeth yma a dyma’r canlyniadau:
Tîm Buddugol: CFFI Penybont – Hannah Richards, Daniel O’callaghan, Caeo Pryce a Lleu Pryce
Unigolyn Gorau: Mari James,
CFFI Llangadog
Adran Hyn:
Cafwyd cystadleuaeth dda iawn yn y gystadleuaeth yma rhwng 2 dîm cryf iawn. Miss Kate Miles oedd gyda’r dasg o feirniadu a dyma’r canlyniadau:
Tîm Buddugol: Tîm Swyddfa – Angharad Thomas (CFFI Dyffryn Tywi), Ffion Rees (CFFI Llanfynydd) a Lynwen Mathias (CFFI Dyffryn Cothi)
Unigolyn Gorau: Lynwen Mathias, CFFI Dyffryn Cothi