Merched y Wawr Llandysul a’r Cylch
AR ôl blwyddyn yn methu cyfarfod a gweld eisiau y cyfle i gymdeithasu, penderfynodd swyddogion y gangen fentro arbrofi a threfnu cyfarfod arlein.
Croesawodd Megan y llywydd pawb i’r cyfarfod cyn cyhoeddi bod y swyddogion wedi trefnu cwis ar Gymru ar eu cyfer.
Cafwyd hwyl wrth wneud y cwis, gyda Valerie yn dod i’r brig. Pawb wedi mwynhau’r prynhawn ac yn falch o weld cydaelodau er mai arlein oedd hynny.
Gan bod y cwis wedi bod yn llwyddiant aed ati wedyn i drefnu cyfarfod arlein i ddathlu Dydd Gwyl Dewi. Croesawodd Megan ein gwr gwadd, sef Mr John Jones (John Clogs) o Llandysul. Cafwyd ganddo ei hanes yn blentyn yn cael ei godi ar aelwyd Saesneg, cyn i’r teulu symud i Sir Fôn, lle y cafodd gyfle i ddysgu’r Gymraeg.
Cyn diweddu bu’n dweud shwd roedd y pandemic a’r clo mawr wedi ei effeithio. Diolchodd Megan i John, a phawb wedi mwynhau prynhawn pleserus iawn.
Prynhawn o chwarae bingo cafwyd wedyn a’r galw yng ngofal Sheila. Er mae dyma’r tro cyntaf i rai o’r aelodau chwarae bingo cafwyd tipyn o hwyl wrth wneud hynny.
Gan ein bod yn dal i fyw yng nghysgod Covid-19 a chyfyngiadau clo mawr arall dim ond yn dechrau cael ei rhyddhau, a byd yr opera a theatrau wedi distewi dros dro, fe fu yn bosib gael cwmni y tenor Aled Hall i’n cyfarfod nesaf.
Estynwyd croeso iddo ac i aelodau canghenau Pencader a’r Garreg Wen a oedd wedi cael gwahoddiad i ymuno â ni. Cafwyd ganddo hanes ei addysg gynnar ym Mhencader a Llandysul ac wedyn i astudio cerddoriaeth yn y brifysgol yn Aberystwyth cyn mynd i’r Royal Academy of Music yn Llundain, a’r pobol a ddylanwadodd arno, ac y mae nawr yn enwog ym myd yr opera.
Diolchwyd iddo gan Valerie a phawb wedi cael amser hwylus yn gwrando arno yn adrodd peth o’i hanes.