Pwysigrwydd pobl
MAE’R mis hwn yn fis pwysig i aelodau Capel Y Priordy, Caerfyrddin. Rydym yn dathlu canrif a hanner ers sefydlu’r achos. Ond pe baech chi’n digwydd cerdded heibio i Gapel Y Priordy, Heol Y Prior, Caerfyrddin, dafliad carreg o safle’r Hen Dderwen ac edrych ar y garreg uwchben y drws, byddech yn siwv r o weld y dyddiad 1875 wedi’i naddu yn y garreg. Sut felly mae esbonio ein bod yn dathlu’n pen-blwydd yn 150 oed pan y dylsem, yn ôl y dyddiad uwchben drws y capel, fod yn dathlu 145 mlynedd o fodolaeth?
Mae’r ateb yn syml. Dathlu’r cynulliad cyntaf o bobl a sefydlodd yr achos yn enw’r Priordy a wnawn eleni, ac nid dathlu’r adeilad.
Codwyd yr adeilad er mwyn iddo fod yn fan cyfleus i’r bobl addoli ynddo bum mlynedd wedi sefydlu’r achos.
Dathlu gweledigaeth a mentergarwch pobl a wnawn ni eleni yn Y Priordy a diolch am y bobl a fu’n ffyddlon i’r achos ar hyd canrif a hanner ei hanes. Nid dathlu’r adeilad a wnawn, wedi’r cwbl nid oes bywyd mewn briciau, pren, llechi a gwydr. Yr hyn a ddigwydd y tu mewn i’r adeilad sy’n achos ein dathlu.
A dyma’r gwahaniaeth yn y traddodiad anghydffurfiol rhwng capel ac eglwys. Y capel yw’r adeilad, a’r bobl sy’n cwrdd o fewn i’r capel yw’r eglwys. Prin y clywch fi’n sôn fy mod yn weinidog ar gapel, ond yn hytrach ar eglwys. Nid oes angen gweinidogaeth ar friciau, ond mae ei hangen ar ein pobl.
Rhyfedd yw’r pwyslais a rown ar adeiladau. Gwariwn symiau enfawr o arian yn eu hadnewyddu, ac mae hyn yn wir am adeiladau o bob math, nid yn unig capeli ac eglwysi. Ac eto, onid pobl, ac nid adeiladau sy’n dylanwadu arnom ac yn mowldio’n dawel fach ein cymeriadau a’n personoliaethau? Onid pobl sy’n gwmni i ni pan fyddwn yn unig, ac yn ein nerthu pan fyddwn yn wan? Onid pobl sy’n cydlawenhau â ni yn ein llwyddiant?
Er ein bod yn rhoi gwerth ar ein hadeiladau, onid yw pobl yn llawer mwy gwerthfawr? Onid yn y bobl y dylsem fuddsoddi’n hamser a’n hadnoddau?