Carmarthen Journal

■ Llyfrau llafar Cymraeg ar ffonau clyfar am y tro cyntaf:

-

AM y tro cyntaf mae modd gwrando ar ddetholiad o lyfrau Cymraeg ar apiau Audible ac itunes.

Mae’r Lolfa newydd ryddhau dwsin o lyfrau amrywiol Cymraeg y gellir eu mwynhau heb orfod agor llyfr na phrynu CD.

Mae’r chwyldro ym mhoblogrwy­dd ffonau clyfar wedi arwain at dwf aruthrol yng ngwerthian­t llyfrau llafar electronig drwy’r byd, ond hyd yn hyn araf bu’r ymateb yn Gymraeg.

Dywedodd Garmon Gruffudd ar ran Y Lolfa: “Fel gwasg rydym wedi bod yn ymwybodol iawn o’r ddiffyg darpariaet­h o lyfrau llafar Cymraeg ar Audible ac itunes ers tro ac o’r diwedd rydym wedi mynd ati i drio gwneud iawn am hyn.

“Am sawl rheswm gall gwrando ar lyfr fod yn brofiad mwy dymunol i rai na darllen llyfr. Yn un peth dwi’n credu bod pobl am orffwys eu llygaid ar ôl bod yn llygadryth­u ar sgriniau drwy’r dydd. Ein bwriad yw cyhoeddi rhagor o lyfrau llafar dros y misoedd a’r blynyddoed­d i ddod.”

Mae’r datblygiad yma yna dilyn cyhoeddi’r cofiant Cymraeg cyntaf ar lwyfan Audible fis Tachwedd llynedd, sef hunangofia­nt yr arloeswr Huw Jones, sef Dwi isio bod yn... a recordiwyd yn arbennig ar gyfer y pwrpas yn addas iawn yn stiwdio Sain, sef un o’r cwmnïau a sefydlwyd gan Huw Jones.

Recordiwyd nifer eraill o’r llyfrau gan Gymdeithas y Deillion Gogledd Cymru ac addaswyd rhai o Cdau sydd eisoes ar gael.

Dywedodd Arwel Jones, Pennaeth Datblygu Cyhoeddi Cyngor Llyfrau Cymru: “Rydym yn croesawu penderfyni­ad Y Lolfa i gyhoeddi amrywiaeth o lyfrau llafar newydd ac yn falch o gefnogi’r fenter.

“Mae’n hynod bwysig sicrhau bod gan ddarllenwy­r Cymraeg ddewis da o fformatau gwahanol ac fel Cyngor Llyfrau rydym yn awyddus i weithio gyda phartneria­id ar draws Cymru er mwyn datblygu’r ddarpariae­th ymhellach.”

Ymhlith y llyfrau llafar Cymraeg sydd ar Audible ac itunes mae Llyfr Glas Nebo (Manon Steffan Ros), I Botany Bay (Bethan Gwanas), Gwreiddyn (Caryl Lewis), Pantywenno­l (Ruth Richards) ac Ymbelydred­d (Guto Dafydd).

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom