Carmarthen Journal

Llwyddiant i CFFI Sir Gâr ar lefel Cymru

-

CYNHALIWYD cystadleua­eth Siarad Cyhoeddus Ffederasiw­n Ffermwyr Ifanc Cymru yn rithiol am y tro cyntaf erioed ddydd Sadwrn a dydd Sul Ebrill 24 a 25.

Ymgasglodd aelodau o bob rhan o Gymru ar Zoom am 2 ddiwrnod o gystadlu o safon uchel iawn. Cynhaliwyd cystadv laethau aelodau Iau ac Hyn y flwyddyn hefyd dros y penwythnos hwn, ynghyd â’r gystadleua­eth Ymgeisio am Swydd.

■ Siarad Cyhoeddus Cymraeg Yn Adran Darllen Siarad Cyhoeddus Cymraeg, roedd Celyn Richards (CFFI Penybont), Sion Jones a Lois Davies (CFFI Llangadog) yn cynrychiol­i Sir Gâr, gyda’r tîm yn sicrhau’r 2il safle yn y gystadleua­eth. Llongyfarc­hiadau iddyn nhw.

Caeo Pryce (CFFI Penybont), Gwenno Roberts (CFFI Llanfynydd) ac Ellis Davies (CFFI Llanddarog) oedd y tri aelod a gynrychiol­odd CFFI Sir Gâr yn yr Adran Iau Cymraeg. Diolch i’r tîm am eu hymdrechio­n yn y gystadleua­eth.

Roedd y tîm Adran Ganol yn cynnwys Betsan Jones (CFFI Llanllwni), Lleu Pryce (CFFI Penybont) a Sioned Howells (CFFI Llanllwni).

Llongyfarc­hiadau i’r tîm am ennill cystadleua­eth yr Adran Ganol Cymraeg, a llongyfarc­hiadau hefyd i Betsan Jones am ennill yr unigolyn gorau yn y gystadleua­eth.

Roedd y tîm Adran Hyn hefyd yn llwyddiann­us, gyda Mared Evans, Elen Jones (CFFI Penybont), Owain Davies (CFFI Llanllwni) a Sulwen Richards (CFFI Dyffryn Cothi) yn ennill cystadleua­eth yr Adran Hyv n Cymraeg.

Ar ddiwedd cystadleua­eth Siarad Cyhoeddus Cymru, gosodwyd CFFI Sir Gâr yn y safle cyntaf. Llongyfarc­hiadau a diolch i’r holl aelodau am gystadlu, ac i’r holl hyfforddwy­r am baratoi’r aelodau ar gyfer y gystadleua­eth. ■ Siarad Cyhoeddus Saesneg Roedd y tîm Darllen Siarad Cyhoeddus Saesneg yn cynnwys Lois Davies (CFFI Llangadog), Taidgh Mullins (CFFI Dyffryn Cothi) a Celyn Richards (CFFI Dyffryn Cothi). Llongyfarc­hiadau i’r tîm am ddod yn 2il yn y gystadleua­eth. Yn yr Adran Iau Saesneg, roedd Rhys Griffiths, Morgan Davies (CFFI Llanddarog) a Sara Jones (CFFI Llanfynydd) yn cynrychiol­i’r Sir. Llongyfarc­hiadau iddynt am sicrhau’r trydydd safle yn y gystadleua­eth.

Hefyd yn sicrhau’r gydradd 3ydd safle roedd tîm yr Adran Ganol Saesneg, gyda Hannah Richards, Daniel O’callaghan (CFFI Penybont), Mari James ac Aled Thomas (CFFI Llangadog) yn cystadlu. Llongyfarc­hiadau iddyn nhw.

Ar ôl llwyddiant y tîm Hyv n yn y Siarad Cyhoeddus Cymraeg, bu’r tîm Hyn Saesneg hefyd yn llwyddiann­us, gan ddod yn yv safle cyntaf. Roedd y tîm Hyn Saesneg yn cynnwys Mared Evans, Fiona Phillips (CFFI Penybont), Ffion Rees (CFFI Llanfynydd), Hannah Richards (CFFI Penybont) a Lynwen Mathias (CFFI Dyffryn Cothi).

Ar ddiwedd y gystadleua­eth Siarad Cyhoeddus Saesneg, roedd rheswm mawr dros ddathlu i CFFI Sir Gâr, wrth i’r Sir sicrhau’r dwbl; trwy ennill y gystadleua­eth Siarad Cyhoeddus Cymraeg a chystadleu­aeth Siarad Cyhoeddus Saesneg. Llongyfarc­hiadau a diolch i’r holl aelodau am gystadlu, ac i’r holl hyfforddwy­r am baratoi’r aelodau ar gyfer y gystadleua­eth.

■ Cais am Swydd Yn cynrychiol­i CFFI Sir Gâr yn y gystadleua­eth hon oedd Daniel O’callaghan (CFFI Penybont). Diolch i Daniel am ei ymdrechion yn y gystadleua­eth.

■ Aelod Iau ac Aelod Hyv n y Flwyddyn

Bu Aelodau Iau ac Hyv n CFFI Sir Gâr sydd newydd eu hethol, Mari James (Llangadog) ac Owain Davies (CFFI Llanllwni), yn cystadlu yn erbyn siroedd eraill am deitl Aelodau Iau ac Hyv n y flwyddyn Cymru.

Llongyfarc­hiadau i Mari am sicrhau’r ail safle yng nghystadle­uaeth yr aelod Iau, a diolch i Owain am gystadlu yng nghystadle­uaeth yr aelod Hyv n.

Mae CFFI Sir Gâr yn edrych ymlaen at weithio gyda’r ddau aelod dros y flwyddyn nesaf.

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom