Newyddion CFFI Llangadog
CYNHALIWYD cyfarfod rhithiol ar nôs Wener, Mawrth 19, lle cyflwynodd y Cadeirydd, Mr Ifan Williams y gwr gwadd am y noson sef cynaelod o CFFI Dyffryn Tywi, Mr Dylan Jones. Bu Dylan yn gyn Cadeirydd CFFI Cymru ac yn unigolyn flaenllaw a llewyrchys yn y mudiad. Siarad am ei waith fel rheolwr prynnu llaeth ers 2015 i gwmni Glanbia sydd yn arbenigo yn y maes cynhyrchu a marchnata caws trwy Prydain Fawr oedd testyn Dylan. Cafwyd noson hwylus iawn gyda tipyn o drafod.
Ar nôs Wener, Ebrill 2, gwnaeth 18 aelod o 10 teulu ymuno a Mr Gethin Havard, ffermwr o Bontsenni a wnaeth siarad am cysylltiad ei deulu yn ardal Aberhonddu am dros mil o flynyddoedd. Siaradodd am hanes y teulu, amaethyddiaeth, cefn gwlad, ffermwyr ifanc yn ogystal a nifer o ddigwyddiadau dros y cyfnod yn cynnwys Y Clwy Traed a Gennau, Tafod Las, BSE, TB a Scrapi !! Noson addysgiadol a diddorol iawn.
Cafwyd cyfarfod clwb yn syth ar ôl i’r gwr gwadd adael, lle wnaeth y Cadeirydd Ifan Williams cydnadob a llongyfarch aelodau y clwb a wnaeth cystadlu ar benwythnos siarad cyhoeddus Sir Gar.
Y Canlyniadau yw –
■ Cystadleuaeth Darllen Cymraeg o dan 15 oed – 2il safle- Lois Davies, Sion Jones a Guto Price. 3ydd safle -Abner Evans, Mared Roberts ac Ilan Dafydd. Mae Sion Jones a Lois Davies yn mynd ymlaen I gynrychioli’r Sir ar lefel Cymru fel darllenwyr, tra fod Abner Evans wrth law fel Cadeirydd a darllenwr a Mared Roberts wrth law fel darllenwr i dim y Sir.
■ Siarad Cyhoeddus Iau yn Gymraeg o dan 17 oed Gwnaeth Lois Davies cystadlu fel aelod o dim y swyddfa ag enillwyd y gystadleuaeth. Cafodd Lois ei dewis i fod wrth law i dim y Sir fel Cadeirydd. ■ Siarad Cyhoeddus Adran Hyn o dan 27 oed – 5ed safle – Cadi James, Mari James, Elis James a Ffion Evans. 7fed safle – Aaron Hughes, Glain Evans, Aled Thomas a Sion Roberts. ■ Cystadlaeth Darllen Saesneg o dan 15 oed- 1af Lois Davies, Abner Evans a Ilan Dafydd. Mae Lois Davies yn cynrychioli’r Sir ar lefel Cymru fel Cadeirydd a darllenydd gyda Abner Evans wrth law i dim y Sir fel darllenydd. ■ Gwnaeth Lois Davies ennill yr Unigolyn gorau yn y gystadleuaeth Darllen Saesneg.
■ Siarad Cyhoeddus Saesneg o dan 17 oed – Gwnaeth Lois Davies cystadlu fel aelod o dim y swyddfa a cafwyd 2il safle. Cafodd Lois ei dewis fel siaradwr wrth law i dim y Sir ar lefel Cymru.
■ Siarad Cyhoeddus Saesneg adran ganol o dan 22 oed- 2il safle – Aaron Hughes, Glain Evans, Aled Thomas a Sion Roberts. 3ydd safle – Cadi James, Mari James, Elis James a Ffion Evans.
Cafodd Mari James ac Aled Thomas ei dewis fel siaradwyr ar y panel i gynrychioli tim y Sir ar lefel Cymru, gyda Cadi James wrth law i dim y Sir fel Cadeirydd a Sion Roberts wrth law fel siaradwr.
Gwnaeth Mari James ennill yr Unigolyn gorau yn y gystadleuaeth Siarad Cyhoeddus Brainstrust- Adran Ganol.
Mae’r clwb yn ddiolchgar iawn i hyfforddwyr y cystadlaethau sef Liz Davies a Mared Williams gyda cystadleuaeth Darllen ac Adran Iau ac i Andrew James ac Alun Williams yn y gystadleuaeth Adran Canol a Hyn.
Gwnaeth y Cadeirydd Ifan Williams cydnabod a llongyfarch Mari Wyn James am ennill cystadleuaeth Aelod Iau y Flwyddyn dros Sir Gar am 2021/2022.