Carmarthen Journal

Catrin yn crwydro Cymru

-

YM mis Mehefin, rwyf yn cerdded o amgylch llwybr arfordir Cymru i godi arian at yr elusen rwyf yn gwirfoddol­i i sef ‘Therapies Unite’ ym Mecsico.

Mae Therapies Unite yn elusen wedi’i sefydlu yn Puerto Vallarta, Mecisco sy’n gweithio gydag phlant ac oedolion gyda anableddau gwahanol, sydd yn byw heb offer ac adnoddau syml i helpu gyda’u bywydau bob dydd. Mae’r elusen yn darparu adnoddau, offer a therapi fyddai pobl ddim fel arfer yn gallu fforddio. Gwneud gwahaniaet­h parhaol yw’r bwriad, trwy ddarparu addysg i gleifion, eu teuluoedd, athrawon, gofalwyr a’u darparwyr meddygol. Rydym yn canolbwynt­io ar hyfforddi sut i ddatblygu dulliau o sut i gynyddu eu hannibynia­eth a safon eu bywyd er gwaethaf eu cyflwr. Ar hyn o bryd rydym yn dibynnu lot ar noddwyr ac ar roddion ac wedi derbyn rhoddion fel cadieriau olwyn, beiciau wedi’u haddasu, cadeiriau arbenigol a ‘mobility aids’ di-angen o bedwar ban byd.

Yn anffous, oherwydd y pandemig roedd rhaid i mi ffoi o Fecsico i weithio nôl yn ysbyty Glangwili fel ffisiother­apydd. Ym mis Ionawr 2020, fe wnes i gasglu’r holl offer arbenigol, a’u cludo mewn llong gyda’r bwriad o’u dosbarthu i’r cleifion allan ym Mecsico. Oherwydd y pandemig, ma nhw wedi’u storio ym mhorthladd ym Mecsico a does neb wedi elwa ohonynt! Mae Covid -19 wedi rhoi straen mawr arnom ni i gyd, ac wedi rhoi ergyd mawr i systemau iechyd a’r economi allan yn Mecsico a dros y byd i gyd.

Y bwriad yw i gerdded yr holl ffordd o amgylch llwybr arfordir Cymru. Fydd y daith yn cymryd tua 10 wythnos i gwblhau a fyddai yn gwersylla y rhan fwyaf o’r ffordd. Mae Cymru yn un o’r ychydig wledydd yn y byd sydd â llwybr troed arfordirol di-dor sy’n dilyn ei harfordir cyfan. Mae’n 870 milltir o hyd, yn dechrau yng Nghaer yn y Gogledd ac yn gorffen yng Nghas-gwent yn y De. Lle bo modd, mae’r llwybr yn dilyn yr arfordir ac mae ganddo arwyddbyst â’r logo draig-gragen melyn a glas adnabyddus i ddangos y ffordd. Oes ydych chi am fy noddi tuag at y sialens, sganiwch y ‘QR code’ neu cysylltwch â fi ar catrinwynd­avies@gmail.com. Bydd unrhyw gyfraniad yn helpu!

 ??  ??
 ??  ??

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom