Dathlu 200 mlwyddiant Cana, Bancyfelin
Ar brynhawn heulog o Fehefin 2021, ymlwybrodd aelodau a phlant eglwys Cana, Bancyfelin yn dawel fach i Lwynderw, tŷ sy’n sefyll dafliad carreg o Gana tuag at gyfeiriad Caerfyrddin, i gynnal cwrdd gweddi. Nid dyma’r tro cyntaf i’r saint ymlwybro’n dawel i Lwynderw. Digwyddai hyn mor bell yn ôl â 1815 pan fyddai cyrddau gweddi ac Ysgol Sul yn cael eu cynnal ar amryw o aelwydydd yr ardal, cyn bod sôn am sefydlu achos. Bu pregethwyr cynorthwyol yn ymweld â’r aelwydydd yn gyson nes dechrau’r gwaith o godi Capel Cana, ar ddarn o dir lle teflid sbwriel a gwastraff yr ardal. Bu cyfeillion yn cyrchu cerrig ychwanegol o’r cwar gyda cheffyl a chart er mwyn gosod sylfaen i’r capel. Wedi cwblhau’r gwaith o godi’r capel, corfforwyd eglwys yno gan David Peter y flwyddyn ganlynol.
A dyna’r rheswm dros ymlwybro i Lwynderw ar 13 Mehefin eleni, sef i nodi 200 mlynedd ers sefydlu’r achos yng Nghana ac i ddiolch am ei thystiolaeth loyw i’r Arglwydd Iesu cyhyd. Mae Covid-19 wedi amharu ar gynlluniau’r dathlu wrth reswm ond llwyddwyd, wedi gair o weddi yn Llwynderw, i gerdded yn un teulu i’r Capel gan werthfawrogi harddwch y wlad o’n hamgylch. Cynhaliwyd oedfa yn yr awyr agored ar dir y capel gyda haul Mehefin yn tywynnu arnom. Diolch i’r stiwardiaid am sicrhau trefniadau trylwyr iawn gan barchu rheoliadau Covid-19.
Cafwyd cyfraniad arbennig i’r dathlu gan blant yr Ysgol Sul a fu wrthi’n brysur yn paratoi capsiwl amser a oedd yn cynnwys newyddion cyfredol Cana ynghyd â lluniau. Claddwyd y capsiwl ganddynt ar dir y capel yn yr hyder y daw cenhedlaeth newydd arall i Gana ac agor y capsiwl ryw ddydd gan werthfawrogi’i gynnwys.
Do, er y cyfyngiadau, cafwyd prynhawn bendigedig a chychwyn da i flwyddyn y dathlu.
Pan adeiladwyd Cana, dewis y bobl oedd gosod ffenestri clir yn yr adeilad fel y bo pawb o’r tu allan yn gallu gweld i mewn iddo, ond yn bwysicach fyth, fel y bo’r sawl sy’n cwrdd y tu mewn i’r adeilad yn gallu gweld allan i’r byd.
Er i’r ffyddloniaid gwrdd y tu mewn i Gana ers dwy ganrif, nid gweledigaeth fewnblyg fu gan yr eglwys ar hyd blynyddoedd hir ei hanes.
Yn hytrach, gweledigaeth fwy eang o lawer, ac awydd i fod yn offeryn yn llaw Duw i dystiolaethu i’r fro gyfan ac i’r byd. Wrth ddiolch am ddwy ganrif o dystiolaeth, diolchwn fod yr un weledigaeth yn dal i feddiannu calonnau aelodau Cana heddiw. Mae yma o hyd gymdeithas glòs a chynnes ac awydd ymysg yr aelodau i dystio i Iesu hyd eithaf eu gallu trwy’r cyfnod dryslyd a heriol hwn. Roedd pnawn Sul 13 Mehefin 2021 yn brawf o hynny.
Edrychwn ymlaen at gynnal ambell ddigwyddiad arall yn ystod blwyddyn y dathlu, os bydd amgylchiadau’n caniatáu.