Newyddion Menter Gorllewin Sir Gâr
O dan yr amgylchiadau presennol, mae Menter Gorllewin Sir Gâr yn gweithio i ddarparu gweithgareddau a sesiynau i chi allu barhau i gymdeithasu a byw yn Gymraeg yn ddigidol ac wyneb yn wyneb yn unol â chyfarwyddiadau’r llywodraeth parthed cyfyngiadau.
Helfa Magi Ann
MAE’R Fenter yn trefnu Helfa Magi Ann i deuluoedd yn Castell Newydd Emlyn 10/07/21, croeso i deuluoedd a phlant hyd at cyfnod sylfaen.
Byddwn yn cwrdd am 10:15yb ac i gychwyn am 10:30yb. Ni fydd Magi Ann yn bresennol yn y sesiynau. Er mwyn dilyn canllawiau’r llywodraeth, mae’n rhaid i bawb gofrestru o flaen llaw i sicrhau lle, cysylltwch gyda gwawr@mgsg. cymru i gofrestru neu am fwy o wybodaeth.
Picnic yn y parc ac adloniant gan Siani Sionc:
RYDYM yn edrych ymlaen at gyflwyno tri phicnic yn y parc gyda Siani Sionc dros yr haf.
Caerfyrddin 27ain o Orffennaf alma@mgsg.cymru
Saron Llandysul 9fed o Awst gwawr@mgsg.cymru
Llanboidy 25ain o Awst ceris@ mgsg.cymru
£1 y pen i blant dros 12 mis, bydd oedolion a babis hyd at 12 mis am ddim.
Mae’n angenrheidiol i bawb gofrestru o flaen llaw gan fod nifer cyfyngedig yn gallu mynychu yn dilyn canllawiau’r llywodraeth.
Fforwm Cymraeg Ewro 2020:
MAE Mentrau Iaith y de orllewin yn cyflwyno Fforwm Cymraeg Ewro 2020 ar Facebook! Tudalen i siarad, trafod a chael ambell i ddadl am bopeth i wneud gyda’r Ewros eleni, a hynny trwy gyfrwng y Gymraeg.
Byddwn ni’n cynnal ambell i gystadleuaeth, gofyn am ragfynegiad pawb cyn y gystadleuaeth, trafod pwy ddylai ddechrau i Gymru, trafod tactegau, gofyn pa chwaraewyr i ddilyn a derbyn cynnwys o dîm Cymru gan S4C! Bydd pynciau trafod dyddiol felly ymunwch â ni ar facebook gan chwilio: ‘Fforwm Cymraeg Ewro 2020’. Gobeithio newch chi fwynhau’r grŵp ac edrychwn ymlaen at gefnogi tîm Cymru gyda’n gilydd yn ystod yr ymgyrch!
Sesiynau Cymorth Digidol: RYDYM fel Menter yn cynnig cymorth digidol. Gallwn gynnig cymorth i chi ddefnyddio unrhyw ddyfais neu i’ch helpu i ddatblygu unrhyw sgiliau digidol. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw cysylltu gyda ni a gallwn gynnig cymorth 1 i 1 i chi dros y ffôn neu dros Zoom. Os oes gennych unrhyw anghenion eraill cysylltwch gyda ni am sgwrs. Cysylltwch ar 07939 962042 neu e-bostio ceris@mgsg.cymru i drefnu eich sesiwn.
Cyfryngau Cymdeithasol:
GYDA’R cyfyngiadau yn newid o hyd, mae gwaith y fenter yn newid gydag amryw o ddigwyddiadau a gweithgareddau yn cael eu cynnal ar-lein. Am y diweddaraf, ewch i’n cyfryngau cymdeithasol:
Facebook - Menter Gorllewin Sir Gar
Trydar - @Mentergsg Instagram - @Mentergsg E-bost - ceris@mgsg.cymru neu am fwy o wybodaeth ar sut i gyrraedd y platfformau yma cysylltwch gyda Ceris dros y ffôn: 07939 962042.