Naddu geiriau
GAIR O’R GORLLEWIN
GOBEITHIO nad yw hyn yn mynd i swnio’n rhy ryfedd, ond dwi’n eitha mwynhau ymweld â mynwentydd. Na, efallai nad ‘mwynhau’ yw’r gair cywir – ond cael cysur neu gael fy mhrocio. A does â wnelo hynny ddim byd â hel achau na llunio coeden deuluol.
Un o’r atgofion cynharaf sydd gennyf o ymweld â mynwent am wn i, yw fel disgybl ysgol gynradd yn mynd â chreon a darn mawr o bapur i rwbio argraff o ambell garreg fedd nodedig yn yr ardal, gan weld geiriau a naddwyd ganrif neu fwy yn ôl yn dod yn fyw o flaen fy llygaid.
Mae mis Mehefin yn fis y pen-blwyddi ac ambell achlysur arall yn ein tŷ ni, felly mae ymweliadau â gwahanol fynwnentydd er mwyn mynd â blodau er cof yn anorfod. Mae camu i unrhyw fynwent leol yn rhoi’r ymdeimlad o gamu i gymdeithas amgen. Yr enwau a’r enwau lleoedd cyfarwydd, y teuluoedd gwahanol a’r hen ffrindiau a chymdogion wedi eu claddu o fewn tafliad carreg i’w gilydd. Wrth gwrs, does yr un ohonom yn adnabod pawb, ond fe allwn ni ddychmygu pwy oedd pwy a sut oedd pethau’n arfer bod.
A dyna’r holl hanes wedyn – y trasiedïau, y marwolaethau cynamserol a’r rhai fu fyw ymhell y tu hwnt i oed yr addewid. Mae pob pennod wedi’i naddu hwnt ac yma ar y cerrig.
Alla i ddim anghofio’r effaith gafod darllen carreg fedd oedd wedi’i gosod ar wal allanol un o hen gapeli Caerfyrddin arna i rai blynyddoedd yn ôl. Wedi mynd yno i arholiad piano gydag un o’r plant oeddwn i, ac wrth ei throi hi am y festri a’r man arholi, dyma basio’r garreg fedd benodol hon a oedd yn rhestru enwau pedwar o blant oedd yn aelodau o’r un o’r teulu, bob un o dan ddeuddeg oed – tua’r un oed â’r plant ’co ar y pryd. Am ergyd! Allwch chi ddychmygu’r peth? Sut yn wir allai unrhyw deulu ddygymod â cholli pedwar o blant mewn cyfnod mor fyr?!
A dyna i chi’r cwpledi a’r englynion coffa wedyn ar waelod ambell garreg fedd – yn dweud cymaint mewn cyn lleied o eiriau – a phob un yn golygu cymaint i’r teuluoedd sy’n galaru. Ond mae un llinell benodol ar garreg fedd ym mynwent Bryngwenith, Ceredigion, wedi fy ngoglais. Welais i erioed y fath linell glyfar, a chryno-gynhwysfawr â hon, sy’n crynhoi bywyd unigolyn yn berffaith, ac alla i ddim osgoi mynd draw yn achlysurol i ddarllen y geiriau ar y garreg fedd, er nad oes gen i unrhyw gysylltiad teuluol o gwbl.
Mae’n debyg mai dod i’r geiriau ar ddarn o bapur yng nghartref yr ymadawedig wnaeth aelod o’r teulu gan sylweddoli na ellid croniclo bywyd yn well na thrwy’r geiriau diymhongar hynny. A beth oedd y geiriau, meddech chi? Wel, dyma nhw:
Des, Ces, Nes, Es.
A dyna ni. Bywyd yn ei gyflawnder. Weithiau does dim angen dweud mwy.