Cwis Dim Clem y Mentrau Iaith
MAE’R Fenter wedi bod yn brysur dros y misoedd diwethaf yn cynnal Cwis Dim Clem gyda nifer o ysgolion Gorllewin Sir Gâr, llongyfarchiadau mawr i Ysgol Griffith Jones am ddod yn fuddugol yng nghystadleuaeth Cwis Dim Clem yn ardal Menter Gorllewin Sir Gâr eleni ac am gynrychioli’r Fenter yn y rownd genedlaethol! Mae hi wedi bod yn bleser cynnal y cwis gyda’r ysgol hon eleni a diolch i bob ysgol arall yn ardal y Fenter wnaeth gymryd rhan!
Ym mis Mehefin 2021 fe wnaeth disgyblion ysgolion cynradd dros Gymru gyfan gymryd rhan yn rownd derfynol cenedlaethol Cwis Dim Clem am y tro cyntaf erioed. Mae Cwis Dim Clem yn gwis Cymraeg hwyliog i blant blynyddoedd 6 ysgolion cynradd Cymru a ddechreuodd yn Sir Gâr yn 2015. Ers hynny mae’r cwis wedi datblygu yn rhanbarthol ac eleni yn digwydd yn genedlaethol am y tro cyntaf. Gwnaeth 17 o ysgolion ar draws Cymru geisio am y marciau uchaf er mwyn cyrraedd y brig. Bwriad cynnal Cwis Dim Clem yw rhoi’r cyfle i blant ddefnyddio’r Gymraeg mewn ffordd hwyliog y tu allan i’r gwersi.
Roedd dros 150 o ysgolion a dros 3,000 o ddisgyblion wedi cymryd rhan. Un o’r rhain oedd Heidi, disgybl yn Ysgol Griffith Jones, San Clêr sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol o ardal Menter Gorllewin Sir Gâr. Dywed; ‘Dwi wedi mwynhau dysgu am y wlad dwi’n byw ynddi ac am ei hanes.’ Roedd yr ymateb yn wych ar draws Cymru gyda nifer o ysgolion yn mwynhau cystadlu am y tro cyntaf. Un o’r ysgolion hyn oedd Ysgol Gwaun Gynfi, Deiniolen a ddaeth i’r brig yn ardal Hunaniaith – Menter Iaith Gwynedd.
Dywed Lynne Hughes-williams, athrawes yn Ysgol Gwaun Gynfi: “Mae’r criw wedi wir mwynhau cymryd rhan yn Cwis Dim Clem. Roedd hi’n braf gweld y tîm yn wên o glust i glust prynhawn ‘ma yn rhannu’r profiad gyda gweddill y dosbarth.
“Mae hi wedi bod yn flwyddyn mor fflat i’r plant felly mae’n braf gweld y ”buzz” na’n ôl.’ Dywed Rhian Davies, Swyddog Datblygu Menter Maldwyn; ‘Dyma’r cyntaf i ni gynnal y cwis ym Maldwyn. Roedd pob un o’r 14 ysgol Gymraeg neu Ffrwd Gymraeg yn y sir wedi cymryd rhan, 307 o ddisgyblion i gyd, am y tro cyntaf erioed eleni. Roedd hi’n braf gweld pawb wedi gwirioni a dydyn nhw methu aros tan blwyddyn nesaf!”
Cafodd enillwyr y gystadleuaeth eu cyhoeddi mewn sesiwn ar lein arbennig i ddisgyblion yr 17 ysgol gyda chyflwynydd ‘Stwnsh Sadwrn’ S4C, Owain Williams. Mae modd gwylio’r seremoni drwy linc ar dudalen facebook Menter Gorllewin Sir Gâr. Llongyfarchiadau mawr i Ysgol Pencae, Caerdydd am ennill y gystadleuaeth yn genedlaethol.
Dywed Heledd ap Gwynfor, Cydlynydd Partneriaethau Mentrau Iaith Cymru: “Ry’n ni’n falch iawn o fedru cynnal Cwis Dim Clem yn genedlaethol am y tro cyntaf eleni. Mae’n gyfle gwych i blant gael mwynhau’r iaith a theimlo cyffro cystadleuaeth mewn ffordd ysgafn fel hyn. Ry’n ni’n awyddus bod plant blynyddoedd 6 yn magu perthynas gadarnhaol â’r Gymraeg wrth iddynt ddod i adnabod ffrindiau a chyfoedion newydd eu hysgolion uwchradd, gan roi’r hyder iddynt barhau i siarad yr iaith ar iard yr ‘ysgol fowr’ fis Medi.”