Carmarthen Journal

Dwy dofel newydd i ddysgwyr gan awduron Penigamp

-

YN sgil poblogrwyd­d ysgubol Cyfres Amdani – cyfres o lyfrau wedi eu datblygu’n arbennig ar gyfer dysgwyr – mae’r Lolfa yn falch iawn i gyhoeddi dau deitl newydd sbon gan ddau diwtor Cymraeg profiadol sydd hefyd yn awduron penigamp: Gorau Glas gan Lois Arnold (Lefel Mynediad) a Rob gan Mared Lewis (Lefel Uwch).

Mae’n ffaith bod darllen yn help mawr yn y broses o ddysgu iaith, ac mae hyn yn wir o’r cychwyn cyntaf. Mae darllen yn rhoi’r cyfle i rywun gyfarwyddo â geiriau a phatrymau gramadegol ac yn atgyfnerth­u geirfa yn y cof. Mae iaith Cyfres Amdani wedi ei olygu gan arbenigwr ym maes dysgu Cymraeg i oedolion a cheir geirfa ar bob tudalen ac yn y cefn.

Meddai Lefi Gruffudd o wasg Y Lolfa: “Mae Cyfres Amdani wedi bod yn boblogaidd iawn ers dechrau’r gyfres yn 2018. Mae’r gyfres yn llenwi bwlch drwy roi cyfle i ddysgwyr Cymraeg fwynhau darllen amrywiaeth o nofelau cyfoes, o nofel syml iawn fel Gorau Glas gan Lois Arnold i rywbeth mwy uchelgeisi­ol fel Rob gan Mared Lewis. Rydym yn falch iawn o allu cyhoeddi mwy o lyfrau sy’n annog dysgwyr i ddarllen ac o gydweithio gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaeth­ol wrth gyhoeddi’r ddwy nofel.”

Datblygwyd y gyfres yn wreiddiol yn 2018 ar y cyd gan Gyngor Llyfrau Cymru, y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaeth­ol a phedair gwasg (Y Lolfa, Gomer, CAA ac Atebol). Mae’r llyfrau wedi eu graddoli ar bedair lefel – Mynediad, Sylfaen, Canolradd ac Uwch – i gyd-fynd â chyrsiau y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaeth­ol. Mae’r gyfres hefyd yn addas i bobl sydd eisiau ailgydio yn y broses ddysgu a phobl sydd yn rhugl ond angen magu hyder wrth ddarllen. Am y llyfrau

Gorau Glas gan Lois Arnold Nofel hwyliog i ddysgwyr Lefel Mynediad ar ffurf cyfres o straeon am anturiaeth­au’r swyddog heddlu Alix Jenkins a’i chriw o gyd-weithwyr. Mae’r nofel hefyd yn elwa o luniau dua gwyn gwreiddiol gwych yr artist Carl Pearce.

Dysgodd Lois Arnold Gymraeg fel oedolyn gan ennill Tlws Dysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaeth­ol Casnewydd yn 2004. Enillodd gystadleua­eth creu deunyddiau darllen i ddysgwyr yn Eisteddfod Meifod a ffrwyth hynny oedd ei chyfrol gyntaf Cysgod yn y Coed. Erbyn hyn mae’n awdur pedair nofel i ddysgwyr. Mae Lois yn byw ym Mhorth Tywyn yn Sir Gâr.

Rob gan Mared Lewis Nofel ddoniol a dwys sy’n olrhain treialon tad sengl sy’n symud gyda’i blant i ardal lled gyfarwydd iddo ar ôl tor priodas. Mae’n cynnig stori ddifyr, cymeriadau crwn ac ieithwedd addas i Lefel Uwch.

Disgrifiod­d Bethan Gwanas hi fel ‘nofel gynnes annwyl am ddechrau eto .... ’

Mae Mared Lewis yn awdures adnabyddus ac yn ddramodydd. Cyrhaeddod­d ei nofel Cymraeg Maison du Soleil restr fer Llyfr y Flwyddyn yn 2009 ac mae wedi ysgrifennu nifer o lyfrau i ddysgwyr hefyd, gan gynnwys Llwybrau Cul a Fi, a Mr Huws. Mae Mared Lewis yn byw yn Llanddanie­l Fab, Ynys Môn.

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom