Clwb Criced Merched Bronwydd
Mae’r haf hwn wedi bod yn llawn o gemau cyffrous i ferched Clwb Criced Bronwydd - a dim ond cyn i’r pandemig ein bwrw y bu i ni gwrdd am y tro cyntaf erioed!
Mae’r blwyddyn a hanner ddiwethaf wedi bod yn anodd iawn ar bawb, ond gyda hyn mae mwy o bobl wedi bod yn manteisio ar allu bod tu fas - a cewch chi ddim chwaraeon yn cynnwys mwy o ymbellhau cymdeithasol na Criced!
Mae’r merched wedi bod yn brysur yn ymarfer yn y rhwydi ac ar y llain yn Bronwydd, a thrwy bod ein hyfforddwr, Steve Phillips, wedi ein cofrestru mewn cynghrair, mae’r haf wedi golygu llawer o deithio i chwarae mewn twrnamaint ar draws de Cymru!
Mae cael ein taflu i ddŵr dwfn twrnameintiau wedi golygu i ni broffesiynoli yn eithaf sydyn - mae gennym gapten sef Nia Bullen sydd yn ddisgybl chweched dosbarth yn Ysgol Uwchradd QE, ac mae pob aelod erbyn hyn yn gwybod ble - a sut - mae sefyll!
Rydym wedi chwarae llwyth o gemau erbyn hyn - wedi colli nifer o gemau a hefyd wedi ennill nifer ond rydym wedi mwynhau nhw i gyd! Mae gennym dîm o ferched brwdfrydig a chystadleuol ac mae pob amser hwyl wrth chwarae gyda’n gilydd.
Pleser oedd cael gwahodd y timau o fewn ein cynghrair draw i chwarae mewn cystadleuaeth yn Bronwydd yn ddiweddar - ble enillwyd y cwpan gan ferched Y Fro (Morgannwg).
Cafwyd cyfle i ddiolch i’n hyfforddwr yn swyddogol, diolch Steve, am ei holl amynedd a’i barodrwydd siriol i deithio gyda ni ac i’n dysgu.
Cyflwynwyd dystysgrif i chwaraewr orau’r tîm - Nia Bullen, i’r chwaraewr sydd wedi gwella fwyaf, Helen Gwenllian ac i chwaraewr wedi’i ddewis gan yr hyfforddwr i Sam Gleeson llongyfarchiadau i bawb a llongyfarchiadau am greu tîm hwyliog dros ben.
Os oes diddordeb gan unrhyw un ymuno â ni - croeso i bawb dros 16 oed hyd 60au - dewch draw i gae criced Bronwydd am 6pm nosweithiau Gwener - gweld chi ‘na! ■ Heledd ap Gwynfor (trio bowlio i’r tîm)