Her i ddringo mynyddoedd Cymru yn y flwyddyn newydd
GYDA hwyl yr wyl wedi darfod, mae Dewi Prysor, yn ei lyfr newyddv , 100 Cymru: Y Mynyddoedd a Fi yn cynnig her iachus i ddringo 100 copa uchaf Cymru yn y flwyddyn newydd.
Yn 2015 daeth Dewi Prysor ar draws llyfryn Dafydd Andrews, Cant Cymru. Llyfr bach wedi’i ddylunio i’w gario mewn bag cerdded ac yn cynnwys cyfarwyddiadau i gyrraedd cant copa uchaf Cymru.
Dyma’r ysbrydoliaeth oedd ei angen ar Dewi i ddechrau’r her o gerdded pob un o’r 100. Meddai: “Mae cyrraedd copa mynydd wastad yn deimlad gwefreiddiol.
“Ond dau beth sy’n well na chyrraedd copa mynydd; cyrraedd at gopa mynydd am y tro cyntaf a chyrraedd copa mynydd am y tro cyntaf mewn ardal na fues i erioed yn ei chrwydro o’r blaen.
“A dyna’r peth gorau am her Cant Cymru, nid dim ond cyrraedd copaon ardal ddiarth, ond cyfle hefyd i gael blas o’r ardal yn gyffredinol – hanes, diwylliant a chymeriad (a mwy) y fro a’i phobl. I mi, mae mynydda a chrwydro, meini hirion, carneddau, bryngaerau ac enwau lleoedd i gyd yn mynd law yn llaw, ac yn wirioneddol gyffrous.”
Meddai Dafydd Andrews, awdur y llyfr gwreiddiol a gyhoeddwyd yn 1998: “Mae 100 Cymru: Y Mynyddoedd a Fi yn gyfrol hyfryd – lluniau ardderchog ac arddull cartrefol, darllenadwy. Dwi wrth fy modd ei fod o wedi’i seilio ar fy llyfr bach i.”
Cyhoeddwyd 100 Cymru ddiwedd Tachwedd 2021.
Os nad ydych chi wedi cael cyfle i weld copi, mae’n gyfrol hardd iawn gyda lluniau, cerddi, myfyrdodau, hanesion ardaloedd yn ogystal â chyfarwyddiadau ar sut i gyrraedd 100 copa uchaf Cymru.
Os ydi’r her yma yn codi chwant arnoch chi i gerdded 100 copa uchaf Cymru, ewch amdani!
Ar ôl cwblhau’r 100 copa, rhowch wybod i’r Lolfa, drwy e-bostio ylolfa@ylolfa.com, ac fe gewch dystysgrif arbennig yn rhad ac am ddim i ddathlu’ch llwyddiant!
■ Mae 100 Cymru: Y Mynyddoedd a Fi gan Dewi Prysor ar gael nawr am £19.99 (Y Lolfa).