Newyddion Menter Gorllewin Sir Gâr
O DAN yr amgylchiadau presennol, mae Menter Gorllewin Sir Gâr yn gweithio i ddarparu gweithgareddau a sesiynau i chi allu parhau i gymdeithasu a byw yn Gymraeg yn ddigidol ac wyneb yn wyneb yn unol â chyfarwyddiadau’r llywodraeth parthed cyfyngiadau.
Yng nghanol prysurdeb Nadolig, llwyddodd y Fenter i greu naws Nadoligaidd yn rhithiol mewn noson Gweithdy Torch Drws Nadolig gyda Wendy Davies, Blodau Blodwen a Noson Cyd-goginio Pryd Nadoligaidd gyda Lloyd Henry.
Gweithdy Torch: “Diolch yn fawr Menter Gorllewin Sir Gâr am drefnu noson creu torch rhithiol eleni eto. Rwy’n mwynhau mynd ati i greu torch drws pob blwyddyn a mae’r Fenter wedi galluogi hyn i ddigwydd. Diolch i Wendy am ei harbennigedd ac amynedd i esbonio planhigion, rwy’n edrych ymlaen i fynd allan i weld beth gallaf weld yn fy ardal er mwyn creu rhwbeth dros y gwanwyn. Saesneg yw iaith y cartref felly rwy’n ddiolchgar am gallu mynychu’r sesiwn yma o’r tŷ gan glywed y Gymraeg. Rwy’n edrych ymlaen at ddod i ddigwyddiad nesaf y Fenter, boed yn ddigidol neu rhithiol”.
Noson Blasu’r Nadolig: “Am noson hyfryd, fe wnes i wir fwynhau’r sesiwn rhithiol yn cynnwys arddangosfa a chyd coginio gyda’r Fenter yng ngofal Lloyd Henry. Roeddwn yn gallu defnyddio fy ffwrn adref. Braf gallu dysgu sgil newydd ar nos Wener a gallu holi cwestiynau fel roedd angen gyda chriw arall o bobl. Diolch am gynnig y sesiwn yma am ddim”.
Groto Siôn Corn: Dros dau benwythnos ym mis Rhagfyr daeth llawer o blant Gorllewin
Sir Gâr i weld a sgwrsio gyda Siôn Corn yn Hendygwyn-ar-daf a Phencader. Diolch yn fawr i Ganolfan Hywel Dda a Phafiliwn Pencader am y croeso cynnes ac am adael i Siôn Corn wneud ei hun yn gartrefol wrth ddod i adnabod plant a theuluoedd yr ardal a rhoi anrheg bach iddynt. Diolch am ymuno gyda ni a gobeithio fod pawb wedi mynd i’w gwely’n gynnar ar noswyl Nadolig.
Coffi a Chlonc: Mae’r sesiynau yma sydd wedi cael eu cynnal ers cychwyn y cyfnod clo yn parhau. Dyma gyfle i ddod ynghyd i sgwrsio a chymdeithasu dros baned bob bore dydd Iau am 10.30yb ar Zoom. Mae’r weithgaredd yma yn addas ar gyfer dysgwyr neu siaradwyr rhugl. I dderbyn y linc cysylltwch gyda ceris@mgsg.cymru.
Clybiau Darllen: Mae Menter Gorllewin Sir Gâr yn trefnu dau glwb darllen sy’n cwrdd unwaith y mis ar Zoom. Mae clwb darllen i oedolion yn cwrdd bob ail nos Fawrth y mis am 7yh a chlwb darllen i ddysgwyr yn cwrdd ar nos Fawrth olaf pob mis am 7yh. Dyma gyfle i ddod ynghyd i gymdeithasu a thrafod nofelau cyfoes. Am fwy o wybodaeth neu i gofrestru cysylltwch gyda ceris@mgsg. cymru