Carmarthen Journal

Y gwir yn erbyn y byd!

- GAIR O’R GORLLEWIN

Pam tybed bod y mwyafrif o blant bach yn reddfol yn mynd i ddweud celwydd rhywbryd yn y blynyddoed­d cynnar rheina?

Myn rhai ysgolheigi­on mai proses yw hi i weld ble mae’r ‘ffiniau’, a pha mor bell y medrant dwyllo eu rhieni.

Ar y llaw arall, tasg pob rhiant yw meithrin eu plant i ddeall y gwahaniaet­h rhwng da a drwg, y gwir a chelwydd.

‘Di chi’n siwr o fod yn gyfarwydd â’r geiriau ‘Y gwir yn erbyn y byd’, sef geiriau a adroddir yn seremoniau’r Orsedd. Tebyg mae Iolo Morgannwg fachodd y geiriau yma gynta, ‘nol tua 1792 ond rhaid dweud eu bod yn eiriau cyfarwydd a pherthnaso­l iawn i’n dyddie ni.

Ers cyn co mae yna frwydr barhaol rhwng ‘gwirionedd’ ac ‘anwiredd’, neu gelwydd. Clywir hyn mewn dadleuon rhyfelgar, o fewn a rhwng pleidiau gwleidyddo­l, cecran ar iard yr ysgol, yn y gweithle, ynghyd ag o fewn teuluoedd.

Y gwirionedd yw, ble bynnag y ceir y frwydr, ‘does dim unlle gan ‘anwiredd’ i ffoi gan fod ‘gwirionedd’ yn mynd i ennill yn y diwedd. Y gwir a saif bob tro heb os!

Cofiaf drafod mater gyda gŵr busnes unwaith, ac yn gofyn ei farn ar eitem arbennig. Diwedd y gân oedd iddo fy mherswadio i beidio â gwario fy arian ar yr eitem honno ac i mi ystyried teclyn arall, ychydig yn rhatach hefyd.

Dyma fi’n diolch iddo am ei gyngor ac meddai’ ‘Dw i’n credu mewn dweud y gwir bob tro. Chi’n gweld does dim angen cofio’r gwir’. Ie, adlais o rywbeth tegyg a ddwedodd Mark Twain rywdro.

Dros y flwyddyn neu ddwy ddiwetha ‘ma, mae’n amlwg i ni weld llawer brwydr rhwng y gwir a’r anwir.

Felly os y bydd i chi rhaffo gelwydd yn ddigon hir a chyson, mi wnewch argyhoeddi’ch hunan - ac eraill yn anffodus - mai geno chi ma’r gwirionedd. Vladimir Lenin a ddywedodd ‘Mae celwydd a adroddir yn aml yn medru troi’n wirionedd’!

Felly hefyd gall clywed cymaint o gelwydd o gyfeiriada­u annisgwyl a chan arweinyddi­on annisgwyl osod ‘gwirionedd’ dan fygythiad!

‘Anodd iachau hen glefyd’ medd yr hen ddihareb, ac i’r sawl sydd wrth eu bodd yn rhaffo celwyddau fel tasen nhw’n llefaru gwirionedd, anodd os nad amhosib fydd iddynt droi o’u ffyrdd yn ôl.

Medd dihareb arall, ‘Po fwyaf y bai, lleiaf y cywilydd!’. Medrwn deimlo ar adegau nad oes gan gelwyddgi unrhyw gywilydd!

Ein cyfrifolde­b pena ni’r werin ar bob cyfandir o’r byd yw amddiffyn ‘gwironedd’.

Adnabod y gwir a’i arddel yn ddyddiol. Amser a ddengys gan bwy mae ‘gwir’ yn ein cyfnod, a chan bwy mae’r ‘anwir’!

Felly, daliwn ati’n hyderus i gyhoeddi “Y gwir yn erbyn y byd’!

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom