GAIR O’R GORLLEWIN
■ Tîm Criced Merched Bronwydd a’r cylch
Mae merched tîm criced Bronwydd yn parhau i gael hwyl fawr iawn ar yr ymarfer a’r chwarae er gwaethaf nosweithiau oer a gwlyb y gaeaf.
Gêm yr haf yw criced, ond cymaint yw brwdfrydedd y merched fel bod cynghrair dan dô wedi dechrau dros y gaeaf hwn. Wedi ymarfer ar nosweithiau Gwener y tu fewn i
neuadd Bronwydd, rydym yn cystadlu yn erbyn tîm lleol yn y cwad yng Nghaerfyrddin. Mae chwarae dan dô yn dra wahanol i’r caeau agored arferol, ond yr un ydy’r awch i ennill!
Os hoffech chi ymuno â ni (dechreuwyr neu hen law yn cael croeso mawr!), rydym yn croesawu pob oedran - mae ein ystod oedran yn amrywio o 17 - 60 oed - cysylltwch ag Elin Lloyd drwy naill ai ffonio 07908 727041 neu e bostio elinydelyn@hotmail.co.uk
Does dim dwy waith ein bod yn edrych ymlaen yn fawr iawn i’r diwrnodau ymestyn er mwyn ail gydio ar y chwarae awyr agored!
■ Côr Seingar
Bu i’r côr gwrdd yn rheolaidd o fewn i gapel y Priordy oedd yn caniatau mwy o le i ni ymbellhau na’n lleoliad arferol yn y Festri dros y gaeaf, a recordiwyd cân yn arbennig ar gyfer y Nadolig yno, gyda diolch i Meredudd Jones am recordio a’i olygu ar ein cyfer - gallwch ei weld
wrth ymweld â’n gwefan: www. seingar.co.uk
Gorfu dod â’n cyfarfodydd i ben gyda thynhau ar y rheolau Covid-19 eto. Mae misoedd Ionawr a Chwefror i’r côr wedi bod yn fisoedd o gwrdd dros Zoom gan fwynhau Cwis rhithiol! Gobeithiwn allu ail afael yn ein cyfarfodydd yn y cnawd fis nesaf.
Yn y cyfamser hoffwn longyfarch un o’n aelodau Shôn Williams (bâs) ar briodi Mared yn ddiweddar llongyfarchiadau mawr i chi’ch dau a Twm!