Siarad Cyhoeddus Cymraeg 2022
AR Ddydd Sadwrn 29ain o Ionawr cynhaliwyd Cystadleuaeth Siarad Cyhoeddus Cymraeg C.FF.I Sir Gaerfyrddin yn Ysgol Gynradd Nantgaredig. Cystadlodd yr aelodau yn y gystadleuaeth Darllen (Dan 14), Siarad Cyhoeddus Iau (Dan 16), Cystadleuaeth Seiat Holi (Dan 21) a chystadleuaeth Siarad ar ôl Cinio (Dan 28).
Diolch i Ysgol Gynradd Nantgaredig am gael defnyddio’r Ysgol; i’r stiwardiaid am rhediad esmwyth o’r holl gystadlaethau, i noddwyr y dydd Wynnstay, ac i’r hyfforddwyr a roddodd eu hamser i helpu a hyfforddi ein haelodau. Diolch yn fawr hefyd i’r pedwar beirniad; Mr Edryd Eynon (Darllen), Mr Wyn Thomas (Iau), Mr Aled Johnson (Seiat Holi) a Mrs Gwennan Jenkins (Siarad ar ôl Cinio).
Dyma canlyniadau’r diwrnod:
■ Adran Darllen dan 14:
Enillwyr Tarian Her Ardal y De: C. FF.I Capel-arthne – Mabli Edwards, Beca Curry a Awen Davidson.
Cwpan Howard a Margaret Roberts wedi’i gyflwyno i’r unigolyn gorau yn yr Adran Ddarllen: Mabli Edwards, C.FF.I Capel-arthne.
■ Adran Iau dan 16:
Enillwyr Tarian Her Tegwyn Lloyd: C.FF.I Capel-arthne – Iwan Bryer, Gwenllian Jones a Trystan Tyler Enillydd Cwpan Ronnie Ll. Roberts am y perfformiad unigol gorau yn yr Adran Iau: Gwenllian Jones, C.FF.I Capel-arthne
■ Seiat Holi dan 21:
Enillwyr Stand Gacennau Mary Kay Davies: C.FF.I Penybont – Hannah Richards, Daniel O’callaghan, Lleu Pryce a Caeo Pryce
Enillydd Tarian Nantybwla am y perfformiad unigol gorau yn yr Adran Ganol: Daniel O’callaghan, C. FF.I Penybont
■ Siarad ar ôl Cinio dan 28: Enillwyr Tarian her y diweddar Col. Sir Grismond Phillips: C.FF.I Penybont – Mared Evans, Fiona Phillips ac Elen Jones
Tarian Elonwy & Gareth Phillips am y perfformiad unigol gorau yn yr adran Hyn: Mared Evans, C.FF.I Penybont