Etholiadau Cyngor Tref Caerfyrddin 2022
Bydd etholiadau lleol yn cymryd lle ar 5ed o Fai 2022, a bydd hyn yn cynnwys etholiad i Gyngor Tref Caerfyrddin.
Mae Cyngor Tref Caerfyrddin yn gwasanaethu ardal Tref Caerfyrddin a Threioan, gan gynnwys y 14,600 o drigolion lleol. Mae yna 18 o gynghorwyr ar y Cyngor, sy’n gwasanaethu Wardiau De, Gogledd a Gorllewin Tref Caerfyrddin. Mae’r Cyngor yn cyflogi 18 staff llawn a rhan amser, a Clerc y Cyngor Tref yw Alun Harries.
Mae Cyngor Tref Caerfyrddin yn gyfrifol am y gwasanaethau canlynol: ■ Parc Caerfyrddin, yn cynnwys y Siop De a’r Felodrom
■ Parciau cyhoeddus eraill megis Parc Penllwyn, Parc Hinds, Parc Treioan, Maes y Wennol, Allt Ioan, a Pharc Myrddin.
■ Nifer o lwybrau cyhoeddus yr ardal
■ Neuadd Ddinesig San Pedr
■ Mynwent Caerfyrddin
■ Goleuadau Stryd
■ Digwyddiadau a gweithgareddau blynyddol, yn cynnwys goleuadau Nadolig y dref, y parêd Nadolig a’r ceirw, rasus y Maer, digwyddiadau Gŵyl Dewi a’r Noson Wobrwyo Chwaraeon
■ Y basgedi crôg ac arddnagosifeydd blodeuol eraill
■ Rhoi grantiau i wahanol sefydliadau ac achosion da
■ Am ragor o wybodaeth am waith Cyngor Tref Caerfyrddin ewch i’r wefan: http://www. carmarthentowncouncil.gov.uk/
■ Beth mae Cynghorwyr Tref Caerfyrddin yn ei wneud?
Mae gan Gynghorwyr Tref dri phrif faes gwaith:
■ Gwneud penderfyniadau: drwy fynychu cyfarfodydd a phwyllgorau gydag aelodau etholedig eraill,
■ Monitro: mae cynghorwyr yn sicrhau bod eu penderfyniadau'n arwain at wasanaethau effeithlon ac effeithiol drwy gadw llygad ar ba mor dda y mae pethau'n gweithio
■ Cymryd rhan yn lleol: fel cynrychiolwyr lleol, mae gan gynghorwyr gyfrifoldebau tuag at y bobl sy'n byw yn y gymuned a sefydliadau lleol.
Gall gwaith cynghorydd o ddydd i ddydd gynnwys:
■ Mynychu cyfarfodydd sefydliadau lleol fel Dr M'z a Chymdeithas yr Afon
■ Mynychu cyfarfodydd cyrff sy'n effeithio ar y gymuned ehangach, megis ysgolion lleol
Dod â phryderon trigolion lleol i sylw'r Cyngor
■ Sut mae Cyngor Tref Caerfyrddin yn gwneud penderfyniadau?
Mae’r 18 o gynghorwyr yn cyfarfod yn rheolaidd i wneud penderfyniadau am waith ac arweinyddiaeth y Cyngor. Fel corff etholedig, mae'n gyfrifol am y bobl y mae'n eu cynrychioli yn y gymuned. Mynychu cyfarfod o'r cyngor yw'r ffordd orau o ddarganfod beth mae'n ei wneud ac mae'r cyfarfodydd hyn yn agored i'r cyhoedd. Etholir Cadeirydd y Cyngor - sydd hefyd yn Faer Caerfyrddin - yn flynyddol o blith y 18 cynghorydd.
■ Sut mae Cynghorwyr Tref Caerfyrddin yn cael eu hethol?
Etholir Cynghorwyr Tref gan y bobl sy'n byw yn yr ardal. Cynhelir y rhan fwyaf o etholiadau Cynghorau Tref a Chymuned ar yr un diwrnod ag etholiadau'r Awdurdod Lleol ac mae'r etholiad lleol nesaf ar 5 Mai 2022. Ar ôl ei ethol, bydd Cynghorydd yn eistedd ar y Cyngor am bum mlynedd (fel arfer).
■ Allech chi fod yn Gynghorydd Tref Caerfyrddin?
Fel cynghorydd gallwch ddod yn llais i'ch cymuned. Mae'n helpu os ydych yn mwynhau siarad a gwrando ar breswylwyr, gan y bydd angen i chi gynrychioli eu pryderon a'u diddordebau.
■ Faint o amser mae'n ei gymryd?
Gall hyn amrywio, ond fel rheol, bydd gofyn i chi fynychu dau gyfarfod y mis ac mae pob un o'r rhain fel arfer yn para tua awr. Efallai y bydd rhai cynghorwyr yn treulio mwy o amser na hyn, yn dibynnu ar yr hyn y mae'r cynghorydd am ei gyflawni a'r hyn y gallant ei wneud y tu allan i gyfarfodydd y cyngor. Cynhelir cyfarfodydd y Cyngor gyda'r nos fel arfer felly mae'n rhaid i chi allu ymrwymo i dreulio ychydig oriau bob mis (gyda'r nos) yn mynychu cyfarfodydd y Cyngor. All gynghorwyr fynychu’r cyfarfodydd yn bersonol neu trwy linc fideo o bell.
■ Amodau cymhwyso ar gyfer sefyll etholiad
Er mwyn gallu sefyll etholiad cyngor tref (neu gymuned) yng Nghymru rhaid i chi:
■ fod yn 18 mlwydd oed o leiaf
■ bod yn ddinesydd Prydeinig, yn ddinesydd cymwys o'r Gymanwlad, yn ddinesydd yn un o aelodwladwriaethau yr Undeb Ewropeaidd neu’n ddinesydd tramor cymwys, ac yn
■ bodloni o leiaf un o'r pedwar amod cymhwyso canlynol:
■ Rydych wedi'ch cofrestru, a byddwch yn parhau i gael eich cofrestru fel etholwr llywodraeth leol ar gyfer y gymuned yr ydych yn dymuno sefyll ynddo/ynddi o ddiwrnod eich enwebiad ymlaen.
■ Rydych wedi meddiannu unrhyw dir neu safle arall yn ardal y gymuned fel perchennog neu denant yn ystod y 12 mis cyfan cyn y diwrnod y cewch eich enwebu a diwrnod yr etholiad
■ Mae eich prif weithle neu'ch unig weithle yn ystod y 12 mis diwethaf cyn y diwrnod y cewch eich enwebu a diwrnod yr etholiad wedi bod yn ardal y gymuned.
■ Rydych wedi byw yn ardal y gymuned neu o fewn tair milltir iddi yn ystod y 12 mis cyfan cyn y diwrnod y cewch eich enwebu a diwrnod yr etholiad.
Mae rhai pobl wedi'u hanghymhwyso rhag cael eu hethol neu fod yn aelod o gyngor cymuned. Ni allwch fod yn ymgeisydd os yw’r canlynol yn wir ar adeg eich enwebu ac ar y diwrnod pleidleisio:
■ Rydych yn destun gorchymyn cyfyngiadau methdaliad neu orchymyn interim
■ Rydych wedi cael euogfarn droseddol yn ystod y cyfnod o bum mlynedd a ddaeth i ben ar ddiwrnod yr etholiad neu ers cael eich ethol rydych wedi eich profi yn euog o drosedd, rydych wedi eich dedfrydu i gyfnod o garchar o dri mis neu fwy (gan gynnwys dedfryd a ohiriwyd), heb y dewis o ddirwy
Cynghorau Cymuned a Thref yw'r lefel o lywodraethu lleol yng Nghymru ar lawr gwlad. Pam na ymgeisiwch chi i fod yn rhan o Gyngor Tref Caerfyrddin a gweld pa wahaniaeth y gallwch ei wneud i'ch cymuned leol?
Am ragor o wybodaeth ynglŷn â sut allwch chi ddod yn gynghorydd tref yng Nghaerfyrddin cysylltwch gyda Clerc y Cyngor Tref, Alun Harries: ajharries@ carmarthentowncouncil.gov.uk
Mae rhagor o wybodaeth ar gael i ddarpar ymgeiswyr ar wefan y Comisiwn Etholiadol: https://www. electoralcommission.org.uk/cy/rwyfyneg-pleidleisiwr/ymgeisydd-neuasiant/ymgeiswyr-ac-asiantaumewn-etholiadau-cynghorau-plwyfa-chymuned-yng-nghymru