GAIR O’R GORLLEWIN
Tyssul Evans: Cynghorydd Sir Cymuned Llangyndeyrn sydd yn cynnwys pentrefi Pontiets, Carwe, Llangyndeyrn, Pedair Heol, Meinciau, Crwbin, Pontantwn a rhan o Fancffosfelen yn ogystal â phentrefannau Pontnewydd, Cwmisfael a Melin Treisgyrch. Cefais yr anrhydedd o gael fy ethol gyntaf yn Gynghorydd Sir ‘nol ym Mis Mai 1999 ynghyd â bod yn Gynghorydd ar Gyngor Cymuned Llangyndeyrn ers Mis Mai 1987 a hynny fel aelod swyddogol Plaid Cymru.
Dros y ddwy flynedd ofnadwy ddiwethaf ‘ma’ ‘rydym fel Cyngor Sir wedi treial canolbwyntio ar amddiffyn ein trigolion yn erbyn y Pandemig Covid19 melltigedig cymaint â phosib. Er mae aelod Plaid Cymru ydw i ‘rwy’n cydnabod fod Llywodraethau Lloegr, yr Alban a Chymru wedi gwneud ei gorau o dan yr amgylchiadau ofnadwy i amddiffyn ein trigolion. Yn bersonol ‘rwyf wedi ceisio helpu pob etholwr sydd wedi gofyn am gymorth boed yn y maes Gofal Cymdeithasol, Priffyrdd, Cynllunio neu Addysg ynghyd a gwasanaethau arall. Mae wedi bod yn wir bleser i dreial helpu mas. Ers dechrau’r pandemig ma’ nifer o staff y Cyngor Sir wedi ei symud o fod yn gwneud ei gwaith arferol i wneud y gwaith hynod bwysig o ofalu am gleifion ynghyd a pharatoi dosbarthu pecynnau bwyd i’r anghenus, mawr yw ein diolch iddynt hwythau a holl staff yr awdurdod am fod yn barod i addasu fel bo’r galw.
I symud ymlaen at broblemau o ddydd i ddydd : Erbyn hyn ma’ nifer o wahanol fathau o atal cyflymdra trafnidiaeth wedi ei gosod ym mhob pentref o fewn Cymuned Llangyndeyrn serch hynny ma’ oryrru yn dal i fod yn broblem. Problem arall yw’r cynnydd mewn taflu sbwriel yn enwedig felly ar ochr ein heolydd cefn gwlad, hyn er bod y Cyngor Sir yn casglu sbwriel ym mhob tŷ drwy’r sir, yn wir ma’ rhai o’n trigolion yn mynd mas o’i ffordd i gario’i sbwriel i lefydd anghysbell yn hytrach nai ddodi tu fas ei cartrefu i’w casglu hefyd y broblem o berchnogion cŵn yn cerdded ei anifeiliaid anwes a gadael iddynt faeddu ar y palmentydd a llefydd chwarae yn ein pentrefi heb ffwdanu ei godi a’i ddodi mewn bagiau pwrpasol.
Problem arall sydd wedi ein hwynebu dros y misoedd diwethaf yn arbennig yw’r cynnydd aruthrol mewn tywydd cyfatal, gwlyb a stormus sydd wedi dod a phroblemau llifogydd i nifer o’n hetholwyr gan greu llanast a gofid i’r trigolion sy’n cael ei heffeithio. Mae’n amlwg fod cynhesu byd eang a newid hinsawdd yn gyffredinol yn dod a’i broblemau yma i Sir Gar fel ar draws y Byd cyfan.
‘Rwy’n aelod o Gorff Llywodraethol Ffederasiwn ysgolion cynradd Carwe, Gwynfryn Pontiets a Phonthenri ac wedi mynychu pob cyfarfod sydd wedi ei gynnal yn rhithiol, rhaid canmol aelodau staff yr ysgolion ynghyd a’r plant am addasu ei ffordd o gyflwyno a derbyn ei haddysg. Yn ogystal mynychais bob cyfarfod misol o’r Cyngor Cymuned a ma’ fy niolch yn fawr i’r aelodau a’r Clerc am ei cefnogaeth yn ystod y cyfnod tu hwnt o anodd a heriol.
Fel Cadeirydd Pwyllgor Neuadd Pontiets sicrhawyd fod y gwasanaeth Swyddfa Bost wedi cario ‘mhlan bron dros holl amser y ‘Clo Lawr’ ynghyd a’r gwasanaeth pwysig ‘Footcare’ misol. Braf gweld erbyn hyn fod nifer o’r mudiadau wedi ail gychwyn yn y neuadd ynghyd a gwasanaeth y llyfrgell sydd yn cael ei ddarparu gan wirfoddolwyr.
Braf gweld hefyd fod y Co-op wedi agor ei stordy newydd ym Mhont-iets yn ystod y flwyddyn er boddhad y trigolion lleol. Ail ddechreuodd y farchnad cynnyrch lleol ‘nol yn Neuadd Pontiets ym Mis Medi a chynhelir y farchnad fisol honno ar y trydydd fore Sadwrn bob mis.
Wrth edrych ymlaen at y flwyddyn newydd byddwn yn ceisio sicrhau fod gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ar gael i’r rhai fydd ei angen ynghyd a cheisio cael mwy o gyllid i atgyweirio a gwella cyflwr wyneb ein heolydd yn arbennig felly heolydd bach cefn gwlad.
Bydd cyfnod presennol pob un ohonom Gynghorwyr Sir yn dod i ben ddechrau Mis Mai 2022 pryd y byddwn yn wynebu etholiad. Byddwn ni yma yn Llangyndeyrn yn croesawi pobol Cwmffrwd, Idole, Bancycapel, Croesyceiliog, Cloigyn a Llandyfaelog atom fewn i’r Gymuned, bydd hyn yn creu sedd dau aelod rhywbeth cyfan gwbl newydd i’r rhan hon o’n Sir. Ma’ hyn yn cymryd lle oherwydd bod Llywodraeth Llafur Cymru yn mynnu fod pob Cynghorydd yn cynrychioli o gwmpas 2000 o etholwyr ac er bod nifer o Gynghorwyr a Chynghorau Cymuned wedi gwrthwynebu’r newid hyn ni chymerodd y Llywodraeth unrhyw sylw o’n barn.