Carmarthen Journal

GAIR O’R GORLLEWIN

- ■ Gwyn Elfyn

Mae’n adeg cythryblus ar ein byd ac mae dyn unwaith yn rhagor a’i fryd ar ddinistrio ei blaned ei hunan.

Gyda’r byd yn y fath gyflwr mae’n anodd meddwl am bwnc heblaw heddwch gan mai dyna fyddai dymuniad pob un ohonom, gan gynnwys nifer o drigolion Rwsia ei hunan.

Trachwant dyn am bŵer sydd yn golygu fod rhywun dan orthrwm byth a beunydd.

Dyw hyn heb newid ers dyddiau’r Hen Destament a dweud y gwir ac yn ystod y ganrif ddiwethaf mae wedi ei weld ar draws ein byd mewn lleoedd megis Vietnam, Nigeria, Pakistan, Iraq, Afghanista­n, gwledydd y Balkans, Palesteina – mae’r rhestr yn gywilyddus o ddiddiwedd.

Erbyn heddiw rydym yn poeni nid yn unig am Wcrain a’i phobl ond am beth fydd yn digwydd nesaf. Mae hen bennill dadlennol iawn yn dod i’m meddwl –

Felly am nad oes uffern

Gan Dduw ar gyfer dyn, Ymrof, medd dyn, i lunio Uffern i mi fy hun. Oherwydd dyna yw rhyfel ontefe – uffern, neu fersiwn ohono beth bynnag.

Ychydig wythnosau yn ôl fe fu farw’r Archesgob carismatai­dd, Desmond Tutu ac roedd ganddo ef ddyfyniada­u arbennig y dylem gymeryd sylw ohonynt ar gyfnod fel hyn; enghraifft berffaith yw hon – “If you are neutral in situations of injustice, you have chosen the side of the oppressor.”

Na, dyw gwneud dim ddim yn opsiwn ond beth allwn ni wneud?

Mae yna nifer o sefydliada­u yn casglu deunydd ar gyfer y ffoaduriai­d fydd yn gorfod dianc o’r wlad gan adael eu heiddo a’u cartrefi ar ôl. Cofiwch fod pob cyfraniad ym mha fodd bynnag yn helpu.

Mae’n bwysig hefyd ein bod yn condemnio pob gweithred o gasineb a lladd.

Fel dynoliaeth rydym yn rai da am lunio esgusodion dros ein camweddau – sawl gwaith mae pob un ohonom wedi dweud – “wel, nid fy mai i oedd e?”

Sawl gwaith ydyn ni wedi dweud – “gaf i fe nol ryw ddiwrnod?”

Efallai mai ar lefel fach bersonol rym ni’n siarad ond ydy’r egwyddor yn wahanol pan fydd arweinyddi­on yn lleisio’r un geiriau ar lefel rhyngwlado­l?

Does dim egwyddor mewn gorthrwm a thrais, fu dim erioed a fydd dim byth.

Mae yna bobl wedi bod yn achwyn eu bod yn gorfod gwisgo masg i amddiffyn eraill yn y ddwy flynedd ddiwethaf – rhowch eich hunain yn esgidiau trigolion Wcrain ac wedyn fe fydd gennych le i achwyn!

Mae gweddi Sant Ffransis o Assisi yn adleisio dymuniad pob yr un ohonom –

Bydded cariad lle bo casineb, Bydded gobaith lle bu anobaith A lle bu amheuaeth bydded ffydd.

Bydded cysur lle bu galar A llawenydd lle bu tristwch,

A lle bu tywyllwch megis nos Boed goleuni megis ffydd.

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom