Newyddion Menter Gorllewin Sir Gâr
O dan yr amgylchiadau presennol, mae Menter Gorllewin Sir Gâr yn gweithio i ddarparu gweithgareddau a sesiynau i chi allu parhau i gymdeithasu a byw yn Gymraeg yn ddigidol ac wyneb yn wyneb yn unol â chyfarwyddiadau’r llywodraeth parthed cyfyngiadau.
Coffi a Chlonc: Mae’r sesiynau yma sydd wedi cael eu cynnal ers cychwyn y cyfnod clo yn parhau. Dyma gyfle i ddod ynghyd i sgwrsio a chymdeithasu dros baned bob bore dydd Iau am 10.30yb ar Zoom. Mae’r weithgaredd yma yn addas ar gyfer dysgwyr neu siaradwyr rhugl. I dderbyn y linc cysylltwch gyda ceris@mgsg.cymru.
■ Clybiau Darllen: Mae Menter Gorllewin Sir Gâr yn trefnu dau glwb darllen sy’n cwrdd unwaith y mis ar Zoom. Mae clwb darllen i oedolion yn cwrdd bob ail nos Fawrth y mis am 7yh a chlwb darllen i ddysgwyr yn cwrdd ar nos Fawrth olaf pob mis am 7yh. Dyma gyfle i ddod ynghyd i gymdeithasu a thrafod nofelau cyfoes. Am fwy o wybodaeth neu i gofrestru cysylltwch gyda ceris@mgsg.cymru
■ Sesiynau stori: Rydym yn ailgychwyn sesiynau stori mewn tair ardal sef Caerfyrddin ar ddydd Llun yng Nghanolfan Chwarae Sgiliau ar y 21ain a 28ain o Fawrth a 4ydd o Ebrill. Yn San Clêr ar ddydd Mercher yn Y Gât ar yr 16eg, 23ain a 30ain o Fawrth a 6ed o Ebrill.
Ac yng Nghwmann ar ddydd Iau yn Neuadd Sant Iago ar y 17eg, 24ain a 31ain o Fawrth a 7fed o Ebrill. Bydd y sesiynau yn cychwyn am 10:30yb ym mhob lleoliad. Ymunwch â ni mewn sesiwn stori ac ychydig o ganu. Mae’n angenrheidiol i bawb gofrestru o flaen llaw. Cysylltwch gyda gwawr@ mgsg.cymru i gofrestru.
■ Clybiau Drama: Mae’r Fenter a Theatr Genedlaethol Cymru yn cynnig dau glwb drama i blant yr ardal, Clwb Joio Drama ar gyfer blynyddoedd 1-3 ar nos Fercher o 5-5.45pm ac i flynyddoedd 4-6 o 6-7pm. Mae’r clybiau yn cael eu cynnal yn y Stiwdio, Theatr y Lyric, Caerfyrddin.
Cyfle i blant dysgu sgiliau, magu hyder a mwynhau. I gofrestru, cysylltwch gydag alma@mgsg. cymru. Diolch i Theatrau Sir Gâr am y croeso cynnes i’r theatr yn wythnosol.