Carmarthen Journal

Cyw a’i ffrindiau’n dathlu gwneud y pethau bychain!

-

MAE Cenhinen Fwya’r Byd! sef y llyfr nesaf yng nghyfres boblogaidd Cyw gan Anni Llyv n, yn dilyn un o ffrindiau gorau Cyw, Jangl y Jiráff, wrth iddi geisio ennill cystadleua­eth Dydd Gwv yl Dewi – ‘Cenhinen Fwya’r Byd’!

Mae’r stori yn gweld y ffrindiau yn dod ynghyd i wneud y pethau bychain i helpu’r genhinen i dyfu’n fawr ac yn gryf. Mae’n dysgu plant sut i weithio gyda’i gilydd, dathlu Cymreictod a phwysigrwy­dd geiriau Dewi Sant “gwnewch y pethau bychain”.

Dyma’r nawfed yn y gyfres o lyfrau Cymraeg Cyw sydd yn addas i blant 7 ac iau. Mae gwasg y Lolfa yn cydweithio gyda chwmni teledu Boom Cymru ac S4C i greu a chyhoeddi’r gyfres.

Mae’r gyfres wedi cael enw da fel ffordd o ddysgu geirfa i blant bach – geirfa sy’n gysylltied­ig gyda phatrymau iaith syml ar thema’r stori. Yma, ceir nifer o eiriau’n gysylltied­ig â maint, e.e. mawr, enfawr, anferth, mwy… Mae storïau’r gyfres yn ymwneud â phethau a digwyddiad­au cyfarwydd i blant, a’r cymeriadau’n adnabyddus iawn.

Ers lansio’r gyfres Stori Cyw, datblygwyd cyfres dysgu Cymraeg fel ail iaith Dysgu gyda Cyw hefyd. Mae’r llyfrau yma’n rhoi cymorth i blant digymraeg gael gafael syml ar yr iaith gan eu bod yn llyfrau dwyieithog.

Mae Anni Llyv n yn wyneb cyfarwydd ar y teledu fel cyflwynydd ac actores. Bu’n Fardd Plant Cymru am ddwy flynedd ac mae wedi cynnal gweithdai mewn ysgolion cynradd ac uwchradd ledled Cymru. Cafodd ei magu ym Mhen Llyv n ac ar ôl cyfnod yng Nghaerdydd mae hi a’i gwv r wedi symud yn ôl i’w hardal enedigol i fagu teulu.

Mae Cenhinen Fwya’r Byd! gan Anni Llyv n ar gael nawr (£3.95, Y Lolfa).

Llyfrau eraill yng nghyfres Stori Cyw: Cyw yn yr Ysbyty; Cyw yn yr Ysgol; Cyw ar y Fferm; Nadolig Llawen Cyw; Pen-blwydd Hapus Cyw; Mabolgampa­u Plwmp; Cyw: Llew a’r Dant Coll; Bolgi a’r Wv yn Bach.

 ?? ??

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom