GAIR O’R GORLLEWIN
NI Nôl A Ni Mlân! Wrth droi at flwyddyn newydd, mae cyffro mawr wedi bod wrth i ni groesawu ein sioe gyntaf broffesiynol ers bron i ddwy flynedd i Theatr Felinfach. Braf gweld cynulleidfa drwy ein drysau eto a chlywed chwerthin a bwrlwm yn atsain trwy’r awditoriwm.
Braf hefyd oedd cael cwmni Theatr Na Nog yma ar y 11eg o Fawrth gyda thaith o’r cyfieithiad gan y Consortiwm Gymraeg o gomedi gwych Shirley Valentine gan Willy Russell gyda Shelley Rees yn serennu fel ein Shirl ni! Rydym yn hynod o falch medru cynnal sesiynau cyfranogi gyda phobol ifanc ac mae’r Theatr wedi bod yn ffodus iawn o gael y cyfle i gydweithio gyda disgyblion a staff Canolfan Y Môr, Ysgol Gyfun Aberaeron. Cyn y Nadolig crëwyd ffilm gyda’r ganolfan ar y thema ‘Joseff a’i got Amryliw’ a ffilmiwyd a golygwyd gan Sioned Thomas, Uwch Swyddog Creadigol y theatr.
Wedyn, yn ystod yr wythnosau diwethaf thema’r sesiynau oedd ‘Cestyll a Dreigiau’ gan gynnwys ymweliad pyped enfawr Y Ddraig Goch, Theatr Byd Bychan. Cafwyd prynhawn hwylus ar y 31ain o Fawrth wrth i griw'r ganolfan ymweld â’r theatr i wylio sioe fyw newydd sbon a grëwyd gan Dwynwen Lloyd Llywelyn, Pennaeth y Theatr a Sioned Thomas, gyda diolch i Dafydd James am berfformio yn y sioe ynghyd â Dwynwen a Sioned.
‘Ers y dechrau oll, 50 mlynedd yn ôl, mae Theatr Felinfach wedi defnyddio drama, theatr a’r cyfryngau creadigol fel offerynnau i hwyluso creadigrwydd a chymdeithas. Mae cydweithio gyda disgyblion a staff Canolfan y Môr wedi bod cymaint o hwyl tra hefyd yn ein gwthio i greu mewn ffordd wahanol a chynhwysol.’ Meddai Dwynwen. Gan aros gyda chreu, braf oedd medru cynnal sesiynau wyneb yn wyneb gyda’r Ysgol Berfformio yn ddiweddar. Cafwyd cyfle i greu fideo cerddoriaeth o gân wreiddiol a gyfansoddwyd gyda Mr Phormula ‘Neges y Genhedlaeth Newydd’ dros y cyfnod clo a gwych oedd medru cynnal sesiynau creadigol gyda’r ddawnswraig Anna Ap Robert, yr artist Menai Rowlands a’n Uwch Swyddog Creadigol Sioned Thomas. Meddai Sioned Thomas, Uwch Swyddog Creadigol Theatr Felinfach ‘Ar ôl saib o ddwy flynedd, roedd yn braf ac yn bwysig rhoi cyfle i bobl ifanc ddod ynghyd ar gyfer ffilmio fideo cerddoriaeth ac ail[1]gydio yn y broses greadigol.
Ni’n edrych ymlaen at gael cynnal sesiwn flasu yr Ysgol Berfformio ar y 14eg o Ebrill ac mae croeso mawr i aelodau newydd 7-18 oed ymuno â ni – cysylltwch am fwy o wybodaeth!’ I ddilyn y sesiwn bydd noson carped coch i ddangos premier o’r fideo cerddoriaeth newydd ynghyd a ffilm o bantomeim Nadolig diweddar Ni Nôl a Ni Mlân. Wrth i ni edrych ymlaen at y flwyddyn rydym yn llawn cyffro wrth i’r theatr ddathlu 50 mlynedd ers agor, ym mis Mai. Mi fydd noson o gerddoriaeth gyda 'Bwca' a 'Pwdin Reis' ym mis Mai i gychwyn y dathliadau ac amryw o weithgareddau a digwyddiadau eraill i’w ddilyn yn ystod y misoedd nesaf.
Carys Haf2 Gair o’r Gorllewin 13/04/22 2022 Mi fydd hefyd yr Eisteddfod Genedlaethol ar ein stepen drws wrth i ni groesawu’r Brifwyl i Geredigion rhwng y 30ain o Orffennaf i’r 6ed o Awst. Mae’r Theatr yn edrych ymlaen at fedru cynnal amryw o weithgareddau a pherfformiadau yn ystod yr wythnos.
Mae modd i chi gadw fyny gyda ni ar ein sianelu cymdeithasol. Facebook Theatr Felinfach Trydar a Instagram @Theatrfelinfach Hoffai’r Theatr estyn diolch, ffarwel a phob lwc i Rhian Dafydd, Rheolwr Busnes a Marchnata wrth iddi symud ymlaen at antur newydd ac am ddiolch iddi am ysgrifennu i’r golofn yma ar ran y theatr yn ystod ei chyfnod yma.
■