Datgelu cyfrinachau enwau caeau Cymru
YR wythnos hon cyhoeddir cyfrol arloesol sy’n ymateb i’r diddordeb cynyddol mewn enwau lleoedd yng Nghymru.
Mae Cerdded y Caeau gan Rhian Parry yn benllanw gwaith oes sy’n astudiaeth o enwau yn ardal Ardudwy, ond yn cynnig patrwm i unrhyw un sydd am olrhain enwau caeau yn eu hardal.
Datblygodd y gyfrol o ymchwil doethuriaeth yr awdur ac ynddi fe ddadlennir sut y gall yr ystyr y tu ôl i enwau lleoedd, ffermydd a chaeau uno tirwedd, hanes lleol a diwylliant Cymru gyfan.
Dangosodd ffrwyth ymchwil Rhian Parry fod y mwyafrif o’r enwau ffermydd a chaeau yn hynafol iawn, hyd at chwe chanrif oed a mwy.
Meddai’r awdures Rhian Parry: “Dim ond drwy gerdded y caeau y gallwn sylwi ar nodweddion y tir a sylweddoli bod yr enw a ddewiswyd yn hollol addas. Weithiau, mae enw hynafol yn ein cyffwrdd oherwydd cyd-destun ei leoliad, fel Cae Saffrwn yng Nglynebwy. Pwy fyddai’n disgwyl gweld crocws mewn dyffryn mor ddiwydiannol?”
“Mae enw’n fwy na label. Yn wir gallwn gyffwrdd â ‘hen bethau anghofiedig dynol ryw’ mewn enw.
“Bydd rhai enwau hynafol yn gyrru ias i lawr asgwrn fy nghefn, teimlad tebyg iawn i’r hyn a gaf wrth gyffwrdd â maen hir yn uwchdir Ardudwy.
“Teimlad anghyfarwydd, diflanedig a bron iawn bellach na fyddaf yn cyffwrdd ag atgof rhywbeth.”
Mae enwau o bob math yn gwegian dan fygythiad newidiadau cymdeithasol ac yn diflannu’n gyflym iawn.
Gobeithir bod y gyfrol yma, ynghyd â gwaith gan sefydliadau fel Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru, yn gofnod i’r dyfodol, yn ail-gyflwyno enwau sydd erbyn hyn yn angof ac yn ysbrydoli astudiaethau tebyg dros Gymru.
Mae’r gyfrol clawr caled hon wedi ei ddarlunio’n hardd gan luniau a mapiau. ■ Mae Cerdded y Caeau gan Rhian Parry ar gael nawr (£19.99, Y Lolfa).