CFFI Sir Gâr
GAIR O’R GORLLEWIN
Rydym yn fudiad ieuenctid sy’n darparu cyfleoedd i 750 o aelodau rhwng 10 a 28 oed sy’n byw yn Sir Gâr.
Rydym yn falch bod gweithgareddau a chystadlaethau nôl yn cwrdd wyneb yn wyneb. Dyma gipolwg o’r gweithgareddau sydd wedi bod ymlaen ers Mis Tachwedd 2021.
■ Clybiau: Ar hyn o bryd 20 Clwb sydd gyda ni fel Mudiad, gyda pob un nôl yn cwrdd wyneb yn wyneb ac yn brwdfrydig iawn i gystadlu yn nghystadlaethau’r Sir. Braf yw gweld cynifer o aelodau hen a newydd yn cystadlu yng nghystadlaethau’r Sir ac hefyd ar lefel Cymru.
■ Staff: Derbyniwyd y newyddion bod Rhodri Lewis, Trefnydd Sir yn ein gadael ar ddiwedd Mis Chwefror 2022 i ymuno â S4C. Rydym ni’n llongyfarch Rhodri yn fawr iawn ar ei benodiad ond mi fydd yn gadael bwlch enfawr ar ei ôl.
Hana Thomas yw Swyddog Marchnata a Gweinyddol y Sir. Diolchwn i Hana Thomas am gytuno i gamu fyny i ymgymryd â chyfrifoldebau ychwanegol yn y cyfnod fydd yn dilyn ymadawiad Rhodri.
■ Gweithgareddau: Cynhaliwyd Noson Paratoi Oen ar y 9fed o Dachwedd 2021, ym Mart Llandeilo. Hoffwn longyfarch Gilbert Roberts o CFFI Penybont a gipiodd y wobr 1af.
Cynhaliwyd Noson ym Mart Llandeilo ar y 10fed o Dachwedd 2021 o barnu ŵyn cigyddion. Hyfryd oedd gweld y Mart yn llawn aelodau newydd a phrofiadol. Llongyfarchiadau i Aled Davies o CFFI Llangadog, Rosie Davies o CFFI Llannon, Carys Morgan o CFFI Llanfynydd a Harri Williams o CFFI Dyffryn Cothi
Noson yn neuadd Pontargothi ar y 11eg o Dachwedd 2021, yn tori cyw iâr yn ddarnau. Unwaith eto gwelwyd llawer o aelodau newydd a phrofiadol yn cymryd rhan. Llondgyfarchiadau i Sara Thomas o CFFI Llanllwni am gipio’r wobr gyntaf.
Noson o Farnu Ŵyn ar y bachyn, yn Mart Hendygwyn Ar Daf, ar y 17eg o
Dachwedd 2021. Diolch yn fawr iawn i Andrew Rees am ddarparu’r carcass ac am feirniadu’r adran iau; i Hadyn Davies am feirniadu’r Adran Hŷn; ac i Fart Hendygwyn Ar Daf am adael ni defnyddio’r cyfleusterau.
Cynhaliwyd Eisteddfod CFFI Cymru Dydd Sadwrn, 20fed o Dachwedd 2021, Ym Mhafiliwn Bont, Pontrhydfendigaid. Llongyfarchiadau i CFFI Cymru ac i CFFI Brycheiniog am gynnal Eisteddfod lwyddiannus. Mae’r diolch a’r llongyfarchiadau mwyaf yn mynd i aelodau CFFI Sir Gâr am eu llwyddiant arbennig yn ystod y dydd. Diolch yn fawr iawn i bob arweinydd, hyfforddwr, cyfeilydd a rhiant sydd wedi rhoi o’u hamser i gynorthwyo a dysgu’r aelodau i’r safon uchaf.
Llongyfarchiadau anferthol i bob un a fu’n cynrychioli’r Sir ar lefel Cymru yn Ngŵyl Siarad Cyhoeddus Cymru yn Llanelwedd ar 27ain o Fawrth 2022. Canlyniadau hollol wych. Edrychwn ymlaen nawr i’r cystadlaethau sydd i ddod am weddill y flwyddyn 2021-22, sef y Rali, Chwaraeon a’r Sioe Frenhinol.