Carmarthen Journal

Llywodraet­h Cymru yn lansio ymgynghori­adau bwyta’n iach i helpu i lunio Cymru iachach

YN RHEDEG TAN 1 MEDI, MAE’R YMGYNGHORI­ADAU YN RHOI CYFLE I BOBL RANNU EU SYNIADAU, EU SYNIADAU A’U HAWGRYMIAD­AU AR SUT I WNEUD FFORDD IACH O FYW YN HAWS I BAWB

-

MAE cyfraddau cynyddol o ordewdra yn destun pryder yng Nghymru, gyda mwy nag un ymhob pedwar plentyn yn y wlad ar fin dechrau’r ysgol dros eu pwysau neu’n ordew.*

Gall effeithiau gorbwysedd neu ordewdra mewn oedolion arwain at ganlyniada­u iechyd corfforol a meddwl difrifol - mae’n arwain at fod yn fwy agored i niwed firysau fel Covid-19 ac mae’n gysylltied­ig â chyflyrau iechyd cronig fel diabetes a rhai mathau o ganser.

Mae Llywodraet­h Cymru wedi lansio ymgynghori­adau Amgylchedd Bwyd Iach a Diodydd Egni, sy’n rhoi cyfle i bobl Cymru gael dweud eu dweud ynghylch sut gallwn ni wneud y dewis iach yn ddewis hawdd.

Meddai’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle: “Mae creu Cymru fwy iach yn un o brif flaenoriae­thau Llywodraet­h Cymru, a gyda chymorth y cyhoedd a drwy gydweithio i wella diet pawb a dad-wneud y cwymp yn iechyd y boblogaeth sydd wedi datblygu dros sawl cenhedlaet­h.”

“Mae’r bwyd a’r diod rydyn ni’n ei fwyta a’i yfed yn effeithio ar ein hiechyd yn fwy na rydyn ni’n sylweddoli. Pe baen ni’n ei gwneud hi’n haws i bobl ddewis diet mwy iach, yna bydd pobl yn byw bywydau mwy hir a iach.”

Yn y sesiwn holi ac ateb yma, rydyn ni’n gofyn i’r Dirprwy Weinidog am y rhesymau y tu ôl i’r ymgynghori­adau, a sut mae Llywodraet­h Cymru yn meddwl y gall ei chynigion helpu i wella iechyd pobl ledled y wlad.

BETH YW’R YMGYNGHORI­ADAU AMGYLCHEDD BWYD IACH A DIODYDD EGNI?

Rydyn ni eisiau clywed safbwyntia­u pobl ynghylch y ffyrdd gallwn ni ei gwneud hi’n haws i bawb fwyta ac yfed yn fwy iach. Dyna pam lansiais i’r ymgynghori­adau yma. Rydyn ni’n gofyn i’r cyhoedd pa reolau newydd ddylid eu cyflwyno, a pha mor bell ddylen nhw fynd.

Mae’r ddau ymgynghori­ad ‘Amgylchedd Bwyd Iach’ a ‘Cynnig i ddod â gwerthiant diodydd egni i blant o dan 16 oed i ben’ - ar gael ar-lein. Yno, mae modd i bobl rannu eu barn ar y syniadau rydyn ni wedi’u cynnig i helpu i wneud Cymru’n lle mwy iach.

Byddan nhw ar agor tan 1 Medi, a byddwn ni’n cyhoeddi ymateb ymgynghori­ad ar gyfer y ddau erbyn diwedd y flwyddyn.

PA NEWIDIADAU YDYCH CHI’N CYNNIG EU GWNEUD MEWN SIOPAU AC ARCHFARCHN­ADOEDD?

Y dyddiau yma, dydyn ni byth yn rhy bell o demtasiwn bwyd sy’n uchel mewn braster, siwgr neu halen, ac yn ein bywydau bob dydd rydyn ni’n dod i gysylltiad â hysbysebio­n, hyrwyddo a phrisiau sy’n ein gwthio ni tuag at ddewis yr opsiynau bwyd a diod yma.

Dyna pam fod ein cynigion ni’n cynnwys cyfyngu ar hyrwyddo bwyd a diod sy’n uchel mewn braster, siwgr neu halen, gan gynnwys hyrwyddo mewn siopau fel gostwng prisiau dros dro a bargeinion ‘prynu un a chael un am ddim’.

Rydyn ni hefyd yn cynnig cyfyngu ar ble gellir arddangos bwyd a diod sy’n uchel mewn braster, siwgr neu halen mewn siopau. Mae llefydd fel mynedfeydd siopau, pen yr eil a’r mannau talu wedi’u cynnwys, gan ein bod yn gwybod bod siopau’n defnyddio’r llefydd yma i annog prynu byrbwyll a phrynu heb gynllunio.

PA EFFAITH ALLAI’R RHEOLAU NEWYDD EI CHAEL AR Y FFORDD RYDYN NI’N SIOPA?

Rydyn ni’n gwybod efallai y bydd rhai pobl yn pryderu am y newidiadau i reolau hyrwyddo ar adeg pan mae costau byw ar gynnydd.

Rydyn ni eisiau meddwl yn ofalus ynghylch sut gallwn ni atal unrhyw effaith, ond rydyn ni hefyd yn gwybod bod angen cymryd camau mawr os ydyn ni am newid ein diet a gwella ein hiechyd. Yn wir, mae tystiolaet­h yn dangos bod hyrwyddo mewn siopau fel arfer yn achosi i bobl wario mwy o arian ar eu siopa wythnosol.

Rydyn ni eisiau i fanwerthwy­r ystyried hyrwyddo cynnyrch mwy iach, ac i’r diwydiant bwyd ystyried ailfformiw­leiddio er mwyn lleihau’r cynnwys braster, siwgr a halen yn rhai o’u bwydydd. Fel hyn, gallai basgedi siopa fod yn fwy iach heb gynyddu cost wythnosol siopa bwyd. Rydyn ni eisiau gwneud y dewis iach yn ddewis hawdd.

PAM DDYLID GWAHARDD DIODYDD EGNI I BLANT?

Mae rhai diodydd egni yn cynnwys hyd at 21 llwy de o siwgr, ac mae rhai’n cynnwys yr un faint o gaffein â thri chwpanaid o goffi - mae’n amlwg nad ydyn nhw’n ddewis da i blant eu hyfed.

Mae plant sy’n yfed diodydd egni yn rheolaidd yn fwy tebygol o adrodd am broblemau gyda’u hiechyd, eu hymddygiad a’u cwsg, ac mae tystiolaet­h yn dangos hefyd bod diodydd egni yn gysylltied­ig â pherfformi­ad gwael yn yr ysgol.

Mae rhybuddion eisoes yn cael eu harddangos ar y diodydd yma sy’n nodi nad ydyn nhw’n cael eu hargymell i blant, ond mae ymchwil yn dangos bod llawer o blant yn dal i’w hyfed.

Rwy’n falch fod rhai siopau wedi cydnabod y broblem ac eisoes wedi stopio gwerthu diodydd egni i blant, ond tan fod gwaharddia­d cenedlaeth­ol, dydyn ni ddim yn amddiffyn plant rhag y niwed mae’r cynhyrchio­n yma’n gallu ei achosi.

SUT GALL Y CYNIGION GEFNOGI BWYTA’N FWY IACH Y TU ALLAN I’N CARTREFI?

Mae bwyta allan a phrynu bwyd tecawê wedi dod yn rhan gynyddol gyffredin o’n bywydau bob dydd, ond gall fod yn anodd gwybod faint o galorïau sydd mewn rhai bwydydd a diodydd, a gwerthfawr­ogi sut gall dognau mwy o faint effeithio ar ein hiechyd.

Byddai rheolau newydd yn gwneud yn siǒr fod llefydd fel bwytai a siopau tecawê yn rhestru’n glir faint o galorïau sydd yn y pethau maen nhw’n eu gwerthu. Byddai hyn yn golygu bod modd i bobl yng Nghymru wneud dewisiadau mwy gwybodus am yr hyn maen nhw a’u teuluoedd yn ei fwyta.

Un newid cadarnhaol arall fyddai cyfyngu ar ail-lenwi diodydd meddal siwgrog am ddim, ynghyd â maint y diodydd siwgrog a gaiff eu gwerthu.

BETH ELLIR EI WNEUD I HELPU I WNEUD AMGYLCHEDD­AU BWYD LLEOL YN LLEFYDD MWY IACH I BOBL IFANC?

Mae llawer o’n plant a’n pobl ifanc yn cerdded heibio i siopau tecawê ar y ffordd i’r ysgol neu’r coleg ac oddi yno, ac maen nhw’n annog pobl ifanc i wneud dewisiadau nad ydyn nhw bob amser yn dda i’w hiechyd.

Oherwydd hyn, rydyn ni’n ystyried sut i gefnogi penderfyni­adau cynllunio lleol pan ddaw at wella ein hamgylched­d bwyd, yn enwedig gyda phethau fel cyfyngu faint o siopau tecawê bwyd poeth newydd gellir eu hadeiladu’n agos i ysgolion uwchradd a cholegau.

Mae dewis yn bwysig, ond mae’n rhaid i ni wneud yn siǒr fod cydbwysedd allan yna i’n pobl ifanc gael mwynhau, a’u helpu i ddewis bwydydd sy’n gallu eu cadw’n iach.

I gael rhagor o wybodaeth am y ddau ymgynghori­ad ewch i llyw.cymru/ amgylchedd-bwyd-iach neu llyw.cymru/ cynnig-i-ddod-gwerthiant-diodyddegn­i-i-blant-o-dan-16-oed-i-ben

*www.llyw.cymru/strategaet­h-pwysauiach-pwysau-iach-cymru-iach

 ?? ??

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom