Carmarthen Journal

Cyfrol i ddysgwyr yn agor y drws at gyfrol straeon byrion newydd

-

Mae un o lyfrau’r cyfres Amdani, cyfres arbennig ar gyfer dysgwyr pob lefel, wedi ysbrydoli cyfrol o straeon byrion newydd sbon ar gyfer lefel Mynediad.

Yr awdur a tiwtor Esyllt Maelor sydd wedi ysgrifennu’r saith stori fer newydd yn Dewch i Mewn a hynny gyda help Ann, Julia, Andi, Fran, Christine, Barbara ac Anne, sef Criw Darllen Llyfrgell Nefyn ym Mhen Llŷn.

Meddai Esyllt Maelor: “Grŵp darllen ar gyfer dysgwyr yn ardal Nefyn sydd y tu ôl i Dewch i Mewn. Gweld yr angen wnaeth y grŵp am gael cyfrol o straeon tebyg i’r gyfrol Agor Drws ar gyfer dysgwyr Lefel Mynediad, cyfrol wnaethon nhw fwynhau ei darllen a siarad amdani.”

“Fe benderfynw­yd i fwrw ati ac ysgrifennu cyfrol newydd ac mae’r un grŵp wedi darllen a thrafod straeon Dewch i Mewn. Mae’r straeon wedi’u lleoli mewn un cymuned lle mae na bobol glên a phobl sy’n codi gwrychyn... pobol y dylid darllen amdanyn nhw a siarad amdanyn nhw. Bydd y sbardunau trafod sydd ar ddiwedd y gyfrol hon yn rhoi cip ar sgyrsiau difyr grŵp darllen Nefyn.”

Mae pob stori yn sefyll ar ei phen ei hun ond mae yna un peth yn cysylltu pob stori hefyd. Mae yna eirfa ar waelod bob tudalen ac ar ddiwedd y gyfrol a cheir sbardunau sgwrs ar ddiwedd y llyfr, ynghyd â chwestiyna­u fel bod modd i grwpiau darllen a grwpiau dysgwyr eraill fwynhau trin a thrafod y straeon, y cymeriadau a’r pynciau.

Bydd Dewch i Mewn yn cael ei lansio’n swyddogol gyda noson yn Y Golff, Morfa Nefyn, am 7.30 nos

Wener, Awst 26. Bydd Liz Saville Roberts yn dweud gair a Martin Croydon yn holi Esyllt Maelor a rhai o’r dysgwyr oedd ynghlwm â’r prosiect. Ceir hefyd perfformia­d gan Gôr y Golff a lluniaeth ysgafn. Croeso i bawb! (os ydych am bryd o fwyd yn y golff cyn y lansiad ffoniwch 01758 721348 neu 01758 721473).

■ Mae Dewch i Mewn gan Esyllt Maelor ar gael nawr (£4.99, Y Lolfa).

 ?? ??

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom