Cyfaill ffyddlon!
GAIR O’R GORLLEWIN
YS GWN i faint ohonoch chi, fel fi, sydd wedi sylwi fod mwy o gŵn o gwmpas y lle y dyddiau hyn?
Am y sylw mae’r cŵn yma’n ei fwynhau. Mewn un caffi yng Nghaerfyrddin ceir Bwydlen Cŵn – dim ond i chi ofyn amdani! Tybed sut ddanteithion sydd arni?! Mewn mwy nag un man hefyd mae cwn yn gallu mwynhau hufen iâ a baratowyd yn arbennig ar eu cyfer.
Wrth deithio’n ddiweddar sylwais ar arwydd yn hysbysebu clinig arbennig - clinig ffrwythlondeb ar gyfer cŵn. Ie, wir. Cefais gymaint o syndod fel y bu bron i mi â mynd yn glec i goeden. Llawer mwy cyffredin yw’r parlyrau pwdl ble mae arbenigwyr yn gallu trin pob math o fridiau er mwyn iddynt edrych yn ysblennydd! A wyddoch chi bod rhwng 187 a 354 o fridiau cŵn cydnabyddedig ar gael yn y byd, gan ddibynnu ar ba glwb cenel sy’n rhoi’r wybodaeth i chi!
Yn y gaeaf wedyn mae cotiau i’w rhyfeddu gan sawl ci a rheiny’n aml yn cydweddu â dillad neu fag-llaw’r perchennog! Trowch at Amazon ar y we ac fe welwch ddewis eang iawn ohonyn nhw!
Os oes unrhyw anhwylder ar gi yna gallwch fod yn siŵr fod toreth o filfeddygon ar gael ac weithiau glinig symudol wrth law hefyd. Ac mae ambell gi methedig yn cael mynd am dro gyda’i berchennog mewn pram arbennig!
Peidiwn ag anghofion fod cŵn ddefnyddiol iawn ar gael, fel cŵn defaid sy’n destun rhyfeddod mewn treialon, a chŵn tywys y deillion sydd mor ofalus o’u perchnogion. A beth am y cŵn hynny sydd mewn porthladdoedd a meysydd awyr yn helpu i ddal smyglwyr cyffuriau?
Gwyddom yn dda hefyd am gŵn yr heddlu. Efallai mai’r ci enwocaf yn y byd yw Laika, yr anifail cyntaf i gylchdroi’r ddaear ym 1957. Cefndir di-nod oedd i Laika - anifail strae yn byw ar y strydoedd yn Moscow ac un a gafodd ddiwedd digon trist. Ci cyffredin hefyd oedd Pickles a ddaeth o hyd i Dlws Jules Rimet ym 1966. Cafodd y tlws ei ddwyn o Neuadd yn Llundain cyn cystadleuaeth pêl-droed Cwpan y Byd yn Lloegr. Wrth fynd am dro gyda’i berchennog daeth Pickles ar draws y tlws wedi’i lapio mewn papur newydd mewn gwrych ar waelod gardd yn Ne Llundain
Yn anffodus, fel yn achos pobl, mae ambell gi’n gallu bod yn beryglus iawn yn y dwylo anghywir gan achosi anafiadau difrifol a hyd yn oed angheuol i’r diniwed. Mae hynny’n destun gofid, gwaetha’r modd! Ond o’u trafod yn ofalus, mae cŵn yn gallu bod yn gyfaill mynwesol a ffyddlon iawn i’w perchnogion, fel yn ystod pandemig Covid-19. Maent yn enghraifft dda i ni ar lawer ystyr – i fod yn ffyddlon i’n ffrindiau ac i roi o’n gorau i eraill mewn bywyd. Diolch amdanyn nhw! Hawdd deall pam mae perygl i ni faldodi’n cŵn yn ormodol ar adegau!
Dw i am fynd am dro bach ‘to nawr. Gwell i mi wisgo lan yn deidi. Does wybod pa gŵn wela i ar fy nhaith!