Trip i Dregaron
MAE’R Haf wedi cyrraedd ac wrth i ni gymryd anadl fach cyn cychwyn ar brysurdeb tymor yr Hydref yn Theatr Felinfach mae’n sicr yn gyfle i ni brosesu’r cyfle gwych a bwrlwm a gafwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn Nhregaron.
Pwy sy’n dweud fod angen iddi fod yn ‘ddolig i wneud panto!? Am y tro cyntaf erioed roedd cyfle i weld criw Dyffryn Aeron a’r dynion drwg ar drip i Dregaron gan berfformio Panto Haf ynghyd â’r Ysgol Berfformio.
Ar ben hynny cafodd y theatr y fraint o gael cynhyrchu sioe Ffermwyr Ifanc Ceredigion “Maes G” yn y pafiliwn ar y Nos Lun yn ogystal â chael parti dathlu’r Theatr yn 50 a chynnal sesiynau dawns a thrafod, i enwi ond rai.
“O’r diwedd, mae cymdeithas yn ôl yn ei hanterth – y cyd-weithio, cyd-greu a chyd-ddathlu, p’un ai’n garnifal, cyngerdd neu’n Brifwyl.” Meddai Dwynwen Lloyd Llywelyn, pennaeth Theatr Felinfach.
“Mae Theatr Felinfach yn falch iawn o fod wedi cael cyfle i ddod â phobl yn ôl at ei gilydd wrth baratoi amrywiol berfformiadau a digwyddiadau ar gyfer yr Eisteddfod ac ar gyfer y theatr, mae’r profiadau yn dyst i’r ffaith bod diwylliant a chyfranogi yn hwb nid yn unig i sgiliau a gwybodaeth, ond hefyd yn hwb aruthrol i les unigolion a chymdogaethau.
“Cymrwch anadl fawr bawb, achos mae’r flwyddyn newydd ddiwylliannol ar ddod – Blwyddyn Newydd Dda i bawb ym mis Medi!”
Rhwng yr holl gyffro fe wnaeth criw Hwyl a Hamdden ddod nôl at ei gilydd am baned a chlonc cyn i’r sesiynau cychwyn nôl yn wythnosol eto ar y 14eg o Fedi. Mae Hwyl a Hamdden ar gyfer pobol 50+ ac yn gyfle i gymdeithasu ac i gymryd rhan mewn amryw o weithgareddau ar brynhawn ddydd Mercher yma yn y Theatr.
Yn ogystal mi fydd yr Ysgol Berfformio yn ail-gydio ym mis Medi ar gyfer pobol ifanc 7-18 oed ar nosweithiau iau gydol tymor ysgol. Dyma gyfle i fwynhau sesiynau hwyl a chreadigol a hefyd yn gyfle hefyd i gymryd rhan mewn dosbarthiadau meistr a thripiau amrywiol.
Rydym hefyd yn edrych ymlaen at ddatgelu ein rhaglen ar gyfer tymor yr Hydref a Gaeaf ac i barhau a dathliadau’r Theatr yn 50 eleni. Cadwch lygad allan i weld yr arlwy o gomedi, drama a cherddoriaeth sydd ar y gweill i chi.
Am ragor o wybodaeth ar beth sydd ymlaen gyda ni yma yn Theatr Felinfach – cysylltwch â ni. 01570 470697 theatrfelinfach@ceredigion.gov. uk
New dilynwch ni ar ein rhwydweithiau cymdeithasol. Facebook | Theatr Felinfach Trydar a Instagram | @ Theatrfelinfach