Carmarthen Journal

Gronfa Ymddiriedo­laeth Budd Cymunedol Fferm Wynt Alltwalis

-

MAE’R Gronfa Ymddiriedo­laeth Budd Cymunedol Fferm Wynt Statkraft Alltwalis wedi sefydlu ers unarddeg mlynedd ac mae dros £889,308 o bunnoedd y gronfa wedi ei ddyrannu i 35 o glybiau, cymdeithas­au a sefydliada­u yn ardal etholaeth Llanfihang­el ar Arth wedi elwa. Yn ystod 2021 cyfrannodd cwmni Statkraft swm o £101,618 i’r gronfa a chefnogwyd y ceisiadau canlynol:

1. Canolfan Deulu Pencader: Derbyniodd y Ganolfan Deulu ddau grant yn ystod 2021 gyda £5,226 yn cael ei ddyrannu i gywiro lleithder ar y wal allanol a grant ychwanegol o £6,014 ar gyfer adnewyddu cegin. Dywedodd Trevor Winn Cydlynydd Canolfan Deulu Pencader: “Am flynyddoed­d lawer, cawsom y broblem o leithder yn dod i mewn i’r gegin, gyda phaent yn dod o’r waliau o ganlyniad a chawsom anhawster mawr i gynnal cegin sy’n addas ar gyfer Canolfan Deuluol. Roedd y grantiau gan Gronfa Gymunedol Fferm Wynt Statkraft Alltwalis yn galluogi datrys y broblem. Nid yn unig y gwnaed gwaith helaeth ar y wal allanol, a oedd wedi atal dwr rhag llifo i mewn, ond darparwyd cegin newydd, sydd wedi bod yn fonws mawr. Mae’r gegin yn un o’r ystafelloe­dd mwyaf poblogaidd yma gan ei bod yn ganolbwynt sgwrsio a rhannu cyngor. Mae wedi bod yn arbennig o boblogaidd ers i’r gegin newydd gael ei gosod, ac mae wedi bod yn hwb mawr, gan ein bod bellach yn ail gysylltu yn dilyn cyfnod ar gau yn ystod Covid. Mae’r ganolfan bellach yn apelgar ac yn ddeniadol. Mae’r Ganolfan yn ddiolchgar iawn am grantiau hyn, a rydym yn croesawu pawb i ymweld â ni pan fyddant yn gallu.”

2. Capel Tabernacl Pencader: Mae derbyn y grant gwerth £23,400 wedi galluogi rhoi tarmac ar y maes parcio er mwyn gwneud hi’n haws i’r henoed a’r anabl i gerdded ar yr arwyneb. Ynghyd â gwneud hi’n haws i bobl mewn cadair olwyn neu sgwter o ganlyniad mae mwy o bobl yn gallu cael mynediad i wasanaetha­u yn Festri’r Tabernacl fel y Clwb Cinio.

3. Cae Chwarae Parc y Glyn: Cefnogwyd cais gwerth £3,300 gan Gymdeithas Cae Chwarae Parc y Glyn i wneud gwellianna­u i’r cae. Mae’r Cae Chwarae bellach ar agor i’r cyhoedd ar ôl i waith cael ei wneud i wella cyflwr y borfa dros y misoedd diwethaf. Defnyddiwy­d arian Statkraft i ariannu’r gwaith hwn. Mae’r pwyllgor wedi bod yn brysur yn tacluso o gwmpas y cae ac yn edrych ymlaen at gynnal digwyddiad­au. Rydym yn ddiolchgar iawn am gefnogaeth Statkraft sy’n ein galluogi i sicrhau bod y cae yn gwasanaeth­u’r gymuned.

4. Cylch Meithrin Llanllwni: Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae’r Cylch wedi elwa yn fawr drwy dderbyn cefnogaeth o £5,000 wrth Gronfa Budd Cymunedol Fferm Wynt Statkraft Allwalis tuag at gostau rhedeg y Cylch. ‘Mae’r arian yma yn gwneud gwahaniaet­h mawr i ni, ac rydym yn ddiolchgar iawn i chi am eich cyfraniad sydd yn sicrhau dyfodol y Cylch Meithrin. Yn y sefyllfa bresennol, rydym wedi defnyddio canran o’r arian i ail agor Cylch Ti a Fi yn Neuadd yr Eglwys. Mae cynnal Cylch Ti a Fi mewn ardal wledig yn holl bwysig er mwyn medru cynnwys rhieni newydd yn rhan o’r gymdeithas. Nid yw hi wedi bod yn bosibl i gynnal gweithgare­ddau codi arian felly mae cyfraniad Statkraft wedi bod yn hanfodol ar gyfer datblygiad y Cylch Meithrin. Mae rhifau plant y Meithrin yn parhau yn uchel ac mae’r Meithrin yn mynd o nerth i nerth ac yn parhau i fod yn rhan bwysig o’r gymuned. Diolch eto am y gefnogaeth ariannol sydd yn sicrhau cyflwyniad addysg Cymraeg i blant lleol yn y gymuned.

5. Cylch Meithrin Pencader: Derbyniodd y Cylch Meithrin £5,000 gan gronfa Statkraft eleni a fydd yn galluogi ni i sicrhau safonau a lefelau staff uchel yn y Cylch. Rydyn ni’n medru sicrhau bod tri aelod o staff yn y Cylch trwy’r amser. Heb help statkraft byddai’r cylch yn cael trafferthi­on ariannol. Rydym wedi cael blwyddyn heriol iawn oherwydd Covid felly mae’r arian rydym wedi’i dderbyn wedi cymryd peth pwysau oddi arnom i godi arian yn ystod cyfnod ansicr.

6. Grwp Adfywiad Pencader a’r Cylch: Gwnaeth y gronfa barhau i ariannu cost o argraffu a dosbarthu newyddlen Clecs Bro Cader: ‘Mae grant gan Statkraft wedi galluogir grwp i argraffu Papur ‘Clecs Bro Cader’ 6 gwaith bob blwyddyn, gyda 1100 o gopïau yn cael eu hargraffu a’u dosbarthu yn cynnig newyddion ar ddigwyddia­dau’r ardal ar gyfer preswylwyr etholaeth Llanfihang­el ar Arth. Nid yw byth wedi bod yn fwriad i godi tâl am y Clecs ac nid yw incwm o hysbysebio­n yn ddigon i dalu am y gost felly mae derbyn grant gan y Gronfa wedi bod yn amhrisiadw­y. Mae cadw’r gymuned yn ymwybodol o wasanaetha­u lleol yn holl bwysig yn enwedig yn ystod amser ansicr fel y presennol.’

7. Ysgol Eglwys Llanllwni: Cefnogwyd cais gwerth £2,820 ar gyfer offer addysgol i Ysgol Eglwys Llanllwni. ‘Mae’r grant wedi galluogi Ysgol Llanllwni i ddatblygu ac addasu i’r cwricwlwm newydd gan fod yr adnoddau yma wedi ein galluogi i ddatblygu ein gwersi yn yr awyr agored.’

Os ydych am geisio am gefnogaeth y Gronfa i glwb, sefydliad neu gymdeithas o fewn ffiniau etholaeth Llanfihang­el-ar-arth mae croeso i chi gysylltu gyda’r Gweinyddyd­d Meinir Evans am becyn ymgeisio ar y rhif ffôn 01559 395 699 neu drwy e-bost meinir.evans@btinternet.com.

Bydd y dyddiad cau nesaf ar gyfer ceisiadau ar y 23ain o Awst a 15fed o Dachwedd 2022.

Bydd hefyd croeso i chi gysylltu os dymunwch gopi o Adroddiad Blynyddol y Gronfa.

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom