Carmarthen Journal

Newyddion Cffi Llanllwni

-

CAFWYD noswaith lwyddiannu­s yn yr Helfa Drysor Nos Wener, 31ain o Fai gyda 18 car wedi troi lan! Diolch i Ifor, Dan, Hefin, Arwel ac Aled am drefnu’r daith! Llongyfarc­hiadau mawr i’r canlynol:1af i Sioned a Marion Howells ac 2il i Rhian Jones a Linda Evans. Diolch yn fawr i Windy Corner am y talebau fel gwobrau! Diolch yn fawr i’r Mari Glyn am fodloni ni i orffen y daith helfa drysor gyda nhw. Diolch yn fawr i bawb wnaeth ddod i gymryd rhan yn yr Helfa Drysor.

Roedd yn braf i weld cymaint o aelodau yn cymryd rhan yn Athletau Sir Gâr ar y 9fed o Fehefin yn Ysgol Bro Teifi. Yn Campau Trac- Merched 16 neu iau 100m, Alaw Jones yn drydydd a Luned Jones yn ail yn 28 neu iau. Bechgyn 14 neu iau 100m, Tudur George yn gyntaf a Tomos Jones yn ail yn 21 neu iau.merched 16 neu iau 800m, Alaw Jones yn gyntaf a Luned Jones yn gyntaf yn 28 neu iau. Bechgyn 21 neu iau 800m, Gwion Evans yn gyntaf a Dan Jones yn ail yn 28 neu iau. Ras Gyfnewid – Merched 28 neu iau, Betsan Jones, Cathrin Jones, Sara Thomas a Sioned Howells yn ail, Bechgyn 14 neu iau, Dylan Thomas, Tudur George, Elis Evans a Llyr Dunn yn gyntaf ac yn y Bechgyn 28 neu iau cipiodd Hefin Jones, Jac Jones, Dan Jones a Tomos Jones yn yr ail safle. Campau Maes – Yn y Disgen, Merched 21 neu iau, Nia Davies yn ail, Bechgyn 14 neu iau, Llyr Dunn yn ail, Bechgyn 16 neu iau, Gwion Evans ail ac Bechgyn

28 neu iau, Hefin Jones yn gyntaf. Yn y Taflu Pwysau, Merched 21 neu iau, Nia Davies yn ail, Bechgyn 16 neu iau, Gwion Evans yn ail ac Bechgyn 28 neu iau, Jac Jones yn ail. Yn y Naid Hir Bechgyn 16 neu iau, Gwion Evans yn gyntaf, Bechgyn 21 neu iau, Tomos Jones yn gyntaf ac Bechgyn 28 neu iau, Dan Jones yn gyntaf. Yn yr Naid Uchel, Bechgyn 14 neu iau, Llyr Dunn yn ail, Bechgyn 16 neu iau Gwion Evans yn gyntaf a Dan Jones yn ail yn 28 neu iau.

Roedd yn hyfryd i fod nôl yng nghwmni ein gilydd yn ein Cinio Blynyddol

Nos Wener yr 10fed o Fehefin yng Ngwesty’r Llwyn Iorwg, Caerfyrddi­n. Diolch i bawb a wnaeth mynychu’r ginio, ac i’r holl siaradwyr a’n diddanodd! Llongyfarc­hiadau i Cathrin Jones ar gael ei hethol yn aelod y flwyddyn. Braf oedd clywed am holl lwyddianna­u’r clwb o 20192022. Edrychwn ymlaen at y cinio nesaf yn 2023 i ddathlu’r 80!

Roedd llawer o aelodau wedi cael llwyddiant yn Athletau Cymru ar y 19eg o Fehefin yn Canolfan Hamdden Aberhonddu. Yn Dodgeball Dynion

daeth Sir Gâr gyda Alwyn Evans, Dan

Jones, Ieuan Rees a Hefin Jones yn rhan o’r dîm. Daeth y merched yn bedwerydd yn Hoci ‘Rush’ Merched. Hefyd Rygbi Cymysg yn ail gyda Gwion Evans yn rhan o’r dîm.daeth y bois yn ail yn Ras Gyfnewid, Bechgyn 14 neu iau. Yn 800m Alaw Jones cypiodd y safle cyntaf a Luned Jones yr ail safle. Ennillod Tudur George cyntaf yn 100m. Naid Hir-tomos Jones yn ail,vdan Jones yn ail, a Llyr Dunn yn drydydd yn y Naid Uchel. Ac yn Ddisgen Gwion Evans yn ail, Hefin Jones yn ail ac Nia yn ail. Llongyfarc­hiadau i chi gyd.

Ers Rali’r Sir mae criw tynnu’r gelyn wedi dal ati ac wedi bod yn cystadlu mewn pedwar cystadleua­eth wahanol. Mae Llanllwni a Dyffryn Cothi wedi dod ati ei gilydd i greu un tîm ai galw yn Dyffryn-llwni. Cafodd Dyffryn-llwni llwyddiant yn Llanddewi ar y 26ain o Fehefin yn ennill yr iau ac adran agored iau. Daliwch ati Fois a merched.

Daeth llwyddiant mawr i aelodau’r clwb wrth iddynt ddod yn fuddugol yng nghystadle­uaeth arddangosf­a y Ciwb yn Penwythnos Cystadlaet­hau National Federation of Young Farmers Clubs ar lefel cenedlaeth­ol yn Stafford ar y 9ed o Orffennaf. Llongyfarc­hiadau enfawr i Hefin Jones Betsan Jones, Sara Thomas Cathrin Jones a Nerys Jones ar ddod i’r brig gyda arddangosf­a thema sioe gerdd Matilda. Daeth Hefin Jones, Alwyn Evans, Dan Jones a Ieuan Rees yn ail yn y gystadleua­eth dodgeball.

 ?? ?? Cffi Llanllwni.
Cffi Llanllwni.

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom