Y Cyngor yn addo £80,000 i Eisteddfod yr Urdd 2023
MAE Cyngor Sir Caerfyrddin wedi addo £80,000 i Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd sy’n cael ei chynnal yn Llanymddyfri’r flwyddyn nesaf.
Mae’r Cabinet hefyd wedi cymeradwyo cyllideb o £100,000 i dalu am unrhyw gostau uniongyrchol ychwanegol yn gysylltiedig â’r digwyddiad sy’n dathlu’r Gymraeg a diwylliant Cymru.
Er mai dyma fydd yr wythfed tro i Eisteddfod yr Urdd ymweld â Sir Gâr, dyma’r tro cyntaf i Lanymddyfri groesawu’r ŵyl.
Fel un o wyliau teithiol mwyaf Ewrop, caiff ei chynnal dros Ŵyl Banc y Gwanwyn, rhwng Mai 29 a Mehefin 3. Mae’n denu oddeutu 100,000 o ymwelwyr y flwyddyn ac yn hanesyddol mae'n cyfrannu hyd at £6 miliwn i economi leol y sir sy’n ei chynnal, gyda’r diwydiant lletygarwch yn elwa’n fawr iawn.
Disgwylir y bydd dros 15,000 o blant a phobl ifanc o dan 25 oed yn cystadlu fel rhai sydd wedi cyrraedd rowndiau terfynol yr Eisteddfod.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg, y Cynghorydd Glynog Davies: “Rydym yn falch iawn o groesawu Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn ôl i Sir Gâr yn 2023 ac i ddangos ein cefnogaeth drwy’r cyfraniad ariannol hwn o £80,000.
“Er mwyn sicrhau bod Eisteddfod 2023 yn ddigwyddiad llwyddiannus, mae’n bwysig ein bod ni, fel y sir sy’n ei chynnal, a’r Urdd yn gweithio mewn partneriaeth er mwyn sicrhau bod y profiad gorau posib yn cael ei roi i blant, pobl ifanc a thrigolion Sir Gâr.
“Bydd Eisteddfod yr Urdd hefyd yn cyfrannu’n sylweddol at ddatblygiad y Gymraeg yn y sir a bydd yn adlewyrchu’r ymrwymiad i gefnogi’r dyhead o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
“Rydym ni’n disgwyl ymlaen yn eiddgar i groesawi Eisteddfod yr Urdd i Sir Gâr y flwyddyn nesaf ac rydym yn mawr obeithio y bydd pob ysgol yn Sir Gâr yn cymryd rhan, mewn rhyw ffordd.”